9. Dadl Fer: Effaith rheoliadau ffosffad Cyfoeth Naturiol Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:02 pm ar 30 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 6:02, 30 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Mae rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy a gwella ein hasedau amgylcheddol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn gwbl ganolog i uchelgais hirdymor Llywodraeth Cymru. O ystyried ein hamcanion strategol a gofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae angen inni fabwysiadu dull ecosystem gyfan. Mae angen inni weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i leihau crynodiadau o faethynnau. Bydd hyn yn sicrhau bod afonydd Cymru mor gydnerth â phosibl i wrthsefyll pwysau cyfredol a phwysau a ddaw yn y dyfodol.

Rwy'n siŵr nad oes angen imi bwysleisio pa mor ganolog yw argaeledd dŵr glân ac amgylchedd dŵr iach i'n heconomi, ein llesiant a'n hunaniaeth genedlaethol. Rydym yn wynebu heriau sylweddol i reoli ein hadnoddau naturiol yn y dyfodol. Mae angen inni weithredu yn awr i sicrhau bod gan Gymru amgylchedd dŵr ffyniannus sy'n cael ei reoli'n gynaliadwy. Mae hefyd yn hanfodol ein bod yn cymryd camau i ddiogelu'r adnodd naturiol gwych hwn. Mae dyletswydd arnom hefyd i ofalu am holl afonydd Cymru, yn enwedig y rhai sy'n bwysig yn rhyngwladol ac sydd wedi'u dynodi'n ardaloedd cadwraeth arbennig. Gallwn fod yn falch fod gennym naw dalgylch afon wedi'u dynodi yng Nghymru, yn rhan o rwydwaith mwy o safleoedd gwarchodedig ledled Cymru, a phob un yn hanfodol i helpu i fynd i'r afael â'n hargyfwng natur a'n hargyfwng hinsawdd.

Fel y crybwyllwyd eisoes, mae'r dyfroedd hyn yn cynnal peth o fywyd gwyllt mwyaf arbennig Cymru, fel yr eog, misglen berlog yr afon, a chimwch yr afon. Mae ardaloedd cadwraeth arbennig hefyd yn fannau hamdden ac ymlacio hanfodol, ac mae corff cynyddol o dystiolaeth y gall mynediad at natur, gan gynnwys afonydd, gael effaith gadarnhaol iawn ar iechyd meddwl pobl.

Roedd mabwysiadu targedau ffosfforws tynnach yn yr ardaloedd cadwraeth arbennig gan CNC yn ymateb i dystiolaeth a chyngor gwyddonol gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur. Mae ffosfforws yn elfen sy'n digwydd yn naturiol. Fel arfer, caiff lefelau isel ohono ei ryddhau'n araf o ffynonellau naturiol. Fodd bynnag, mae gweithgaredd dynol hefyd yn gyfrifol, oherwydd y ffordd rydym yn rheoli ein tir a'r modd y cawn wared ar ein dŵr gwastraff a'n carthion. Mae newid hinsawdd hefyd yn chwarae rôl. Mae hafau cynhesach a sychach yn lleihau llifoedd yn ystod y tymor tyfu, gan arwain at lefelau uwch o faethynnau yn ein dyfroedd.

Pam y mae ffosfforws mor niweidiol i'r amgylchedd dŵr? Wel, hyd yn oed ar grynodiadau is, gall ffosfforws effeithio'n negyddol ar ecoleg cyrs. Mae'n achosi ewtroffigedd: gostyngiad sylweddol yn yr ocsigen sydd ar gael o fewn y system afonydd. Mae gormodedd o faethynnau yn arwain at ffyniant algâu ar yr wyneb, gan ladd y rhywogaethau dyfrol islaw. Nododd asesiad CNC o lefelau ffosfforws fethiant syfrdanol ein hardaloedd cadwraeth arbennig afonol, gyda dim ond 39 y cant yn pasio'r targed gofynnol. Mae'r cyngor dilynol a roddodd CNC i awdurdodau cynllunio yn adlewyrchu cyflwr presennol ein dyfroedd. Fe'i cynlluniwyd i sicrhau nad yw datblygiadau yn yr ardaloedd sensitif hyn yn digwydd er anfantais i'n hamgylchedd. Mae cyngor CNC yn cyd-fynd â dyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop yn 2018, y cyfeirir ato'n gyffredinol fel 'achos yr Iseldiroedd'. Mae'r dyfarniad, o dan y gyfarwyddeb cynefinoedd, yn gofyn am warant nad yw unrhyw ddatblygiad arfaethedig yn effeithio ar nodweddion naturiol ardaloedd cadwraeth natur. Oni ellir profi bod datblygiad yn niwtral—er enghraifft, nad yw'n cynyddu lefelau maethynnau presennol—rhaid peidio â rhoi caniatâd cynllunio. Mae'r gyfraith achosion yn rhan o gyfraith a gedwir yn ôl gan yr UE o dan y cytundeb ymadael, ac mae rhwymedigaeth ar Gymru i gydymffurfio â hi.

O ganlyniad i asesiad Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'n amlwg fod angen inni fabwysiadu agwedd fwy rhagofalus tuag at ddatblygu mewn ardaloedd cadwraeth arbennig. Mae angen mwy o asesu ar bob un o'r prosiectau arfaethedig er mwyn deall yr effaith amgylcheddol yn llawn. Mae angen sicrwydd na fydd lefelau maethynnau'n codi. Ceir atebion, ac mae llawer ohonynt yn atebion ar sail natur sy'n gallu gwrthbwyso llygredd ffosfforws tra'n caniatáu i ddatblygiadau ddigwydd. Mae'r rhain yn gymhleth fodd bynnag, ac mae angen i bob sector yr effeithir arnynt eu harchwilio ar sail y dalgylch unigol, gan ddod â datblygwyr, ffermwyr, cwmnïau dŵr a'r rheoleiddwyr at ei gilydd. Mae'n gwbl angenrheidiol ein bod yn arfer dull traws-sectoraidd o leihau lefelau ffosfforws mewn ardaloedd cadwraeth arbennig yng Nghymru er mwyn diogelu amgylchedd naturiol ein hafonydd. Mae'r pwysau'n lluosog, o ollyngiadau carthion, dŵr ffo amaethyddol, tanciau carthion a chysylltiadau diffygiol. Nid un peth yn unig sy'n achosi llygredd, ac mae'r pwysau'n amrywio yn dibynnu ar nodweddion dalgylch afon penodol. Mae angen rheoli ein hafonydd ac amgylchedd Cymru yn gyfannol.

Wrth symud ymlaen, mae angen inni sicrhau cydbwysedd teg rhwng yr amgylchedd a'r economi. Nid oes angen i'r ddau gau ei gilydd allan. Mae twf gwyrdd yn fwy na dyhead iwtopaidd; dyma'r unig ateb hirdymor i'r argyfwng hinsawdd a natur rydym yn ei brofi, ac rydym newydd fod yn ei drafod yn y Siambr yn wir. Ac yn y ddadl honno, dywedais fod angen inni edrych yn ofalus iawn ar yr hyn y gofynnwn amdano gan ofyn hefyd am ddatgan argyfwng hinsawdd a natur. Mae hwn yn un o'r pethau hynny lle mae'n rhaid inni edrych yn ofalus iawn ar yr hyn a wnawn i'n hafonydd a lliniaru effeithiau ein datblygiadau blaenorol. Er mwyn rheoli'r broblem honno, mae cynllun prosiect wedi'i sefydlu yn CNC sy'n cyflawni prosiect afonydd yr ardaloedd cadwraeth arbennig, yn ymchwilio a mynd i'r afael â llygredd ffosfforws mewn afonydd, gan gynnwys afonydd Gwy, y Wysg, y Cleddau, Teifi isaf a'r Ddyfrdwy, ac mae hynny'n rhan o gynllun corfforaethol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2021-22. O dan y cynllun prosiect, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi cyngor a datganiadau sefyllfa i randdeiliaid allweddol, gan gynnwys awdurdodau cynllunio lleol. Mae agweddau eraill ar y cynllun yn canolbwyntio ar safonau ansawdd dŵr, asesiadau cydymffurfio ac ymyriadau i gyflawni gwelliannau i ansawdd dŵr. Yn wir, ceir ymrwymiad i gynyddu gwaith monitro a chasglu data hefyd.

Mae fy swyddogion wedi sefydlu grŵp goruchwylio rheolaeth ardaloedd cadwraeth arbennig hefyd er mwyn darparu trefniadau llywodraethu lefel uchel a chyfeiriad strategol i helpu i gyflymu nifer o feysydd gwaith perthnasol. Gan fod y mater hwn yn effeithio ar lawer o sectorau a rhanddeiliaid, mae'r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r adrannau polisi perthnasol, yn ogystal â rhanddeiliaid allanol allweddol, i ddarparu ffocws ar gyfer ymatebion amlsectoraidd cydweithredol. Hefyd, sefydlwyd is-grŵp cynllunio sy'n cynnwys cynllunwyr awdurdodau lleol, i gynrychioli Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru, yr Arolygiaeth Gynllunio, Llywodraeth Cymru, y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, Dŵr Cymru ac CNC, i ystyried y goblygiadau penodol ar gyfer blaenoriaethau'r system gynllunio a gwell canllawiau cynllunio.

Fel y mae asesiad risg diweddar ar gyfer y DU o newid hinsawdd yn ei amlygu, mae cynefinoedd a rhywogaethau dŵr ffres yn arbennig o sensitif i dymheredd dŵr uchel a sychder. Mae achosion llygredd a'r bygythiad y maent yn eu hachosi i'n hecosystemau afonydd naturiol yn sgil cynnydd yn nhymheredd dŵr yn arbennig o ddifrifol. Mae tymereddau cynhesach mewn afonydd yn gostwng lefelau ocsigen ac yn cynyddu cyfraddau prosesau cemegol biolegol. Mae hyn yn arbennig o wir am gyfraddau twf algâu a maethynnau. Mae angen inni weithredu'n bendant i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, fel y dywedodd pawb yn y ddadl flaenorol, fel y gall pobl ddal ati i drysori adnoddau naturiol cyfoethog Cymru am genedlaethau i ddod, a dyna'n union y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud, Lywydd.