Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 30 Mehefin 2021.
Diolch. Mae arnaf ofn nad ateboch chi fy nghwestiwn, a dyfynnais amryw o gyrff a nododd fod y problemau hyn yn bodoli ymhell cyn COVID, ac maent yn galw, felly, am newid trywydd. Fel y dywedais yma fis Tachwedd diwethaf, mae adroddiad diweddar yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, 'Building Stronger Welsh Communities: Opportunities and barriers to community action in Wales', yn ymwneud â chyfuno cryfderau a sgiliau pobl leol fel y gallant adeiladu'r seilwaith cymdeithasol a llunio'r gwasanaethau y maent eu heisiau ac y maent eu hangen yn eu hardal. Ar ôl hwyluso sgwrs genedlaethol mewn 20 o ddigwyddiadau a gynhaliwyd ar hyd a lled Cymru, gwelsant fod:
'Datgysylltiad rhwng y Llywodraeth, cyrff cyhoeddus a chymunedau yn rhwystr i weithredu cymunedol, er gwaethaf enghreifftiau o gydweithredu traws-sector', fod,
'pobl yng Nghymru yn teimlo'n llai a llai abl i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu hardal leol… nad yw "geiriau teilwng yn cael eu hategu gan gamau gweithredu"... fod cyrff cyhoeddus yn "gwneud pethau i, yn hytrach na gwneud pethau gyda" phobl a chymunedau', a bod,
'ffyrdd sefydledig o weithio yn y sector cyhoeddus a nodweddir gan gyfathrebu gwael, diffyg ymddiriedaeth, osgoi mentro, gweithio mewn seilos, rhagfarn broffesiynol a diffyg cymhelliad i staff' yn rhwystrau sylweddol i fwy o weithredu cymunedol. Sut felly y byddwch yn ymgysylltu â hwy a chyrff eraill, fel y rhai y soniais amdanynt, i gynllunio, darparu a monitro ffordd well o weithio ledled Cymru?