Cymorth i Gyn-filwyr

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 30 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 1:55, 30 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Mae trydydd adroddiad blynyddol cyfamod y lluoedd arfog yn manylu ar yr ystod eang o gymorth i gyn-filwyr ledled Cymru. Eleni, rydym wedi gweld cynnydd rhagorol gan gynnwys mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer cyn-filwyr, cyllid i gyn-filwyr gael mynediad at addysg bellach ac uwch a chyllid parhaus i'n swyddogion cyswllt y lluoedd arfog.