Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 30 Mehefin 2021.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Ers blynyddoedd lawer, mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cael trafferth dod o hyd i leoliadau addas ar gyfer safleoedd preswyl a thramwy ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr. Maent wedi archwilio nifer o safleoedd sydd wedi bod yn anaddas i bawb dan sylw. Fodd bynnag, Weinidog, mae safleoedd Sipsiwn a Theithwyr wedi'u sicrhau ledled gogledd Cymru gan awdurdodau lleol cyfagos. A wnewch chi dderbyn y byddai mabwysiadu dull rhanbarthol o ddarparu safleoedd preswyl a thramwy ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn ffordd well o fynd i'r afael ag anghenion cymunedau Sipsiwn, Teithwyr a Roma yn ogystal ag anghenion trigolion lleol?