Carchardai a'r Gwasanaeth Prawf

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 30 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 2:07, 30 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mewn erthygl ddiweddar yn The Lancet, tynnwyd sylw at y nifer uchel o farwolaethau o ganlyniad i'r coronafeirws mewn carchardai, ac mae hyn er gwaethaf y ffaith bod troseddwyr yn cael eu cloi yn eu celloedd am hyd at 23 awr y dydd i atal lledaeniad y feirws. Bydd hyn yn peri pryder arbennig mewn ardaloedd o amgylch carchardai agored yng Nghymru, megis carchar Prescoed ym Mrynbuga yn fy rhanbarth i, Dwyrain De Cymru. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â sut y mae'n gweithio gyda Gweinidog Llywodraeth y DU a'r gwasanaeth carchardai i greu cynllun i fynd i'r afael â lledaeniad y coronafeirws yn ein carchardai, a hefyd sut y mae'n sicrhau bod carcharorion a chymunedau o amgylch carchardai yn cael eu diogelu?