Banc Cymunedol i Gymru

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 30 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:12, 30 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Lywydd, deallaf eich bod wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 7 ac 8 gael eu grwpio. Mae cynnig y sector preifat i sefydlu banc cymunedol i Gymru yn dibynnu ar gymeradwyaeth reoleiddiol. Mae cynlluniau cyflawni gweithredol yn parhau i ddatblygu ochr yn ochr ag asesiadau rheoleiddiol a gwerthusiad ehangach gan Lywodraeth Cymru, fel y gellir sefydlu Banc Cambria cyn gynted â phosibl ar ôl cael cymeradwyaeth reoleiddiol a phenderfyniadau buddsoddi.