Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 30 Mehefin 2021.
Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi gallu ei gyflawni i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau drwy sicrhau bod hyblygrwydd yn y gronfa cymorth dewisol, ond hefyd i sicrhau y gellir gwneud mwy nag un taliad. Roedd hwnnw'n un o'r cyfyngiadau i sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at y gronfa. Mae'n rhan fawr o'n cynllun gweithredu pwyslais ar incwm, ac yn wir, bydd hefyd yn gysylltiedig iawn â'r cymorth a roddir i denantiaid yn y sector preifat, yn gysylltiedig â'r gronfa caledi i denantiaid.