Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 30 Mehefin 2021.
Rwy'n croesawu'r gefnogaeth drawsbleidiol eang hon y prynhawn yma i greu banc cymunedol i Gymru. Mae'r sector bancio'n cael ei reoleiddio'n dynn, fel y gŵyr yr Aelodau, felly mae'n rhaid inni aros i'r asesiad rheoleiddiol ddod i gasgliad boddhaol. Mae hynny'n ymwneud â sicrwydd i fuddsoddwyr ac aelodau o Fanc Cambria yn y dyfodol. Ond yr hyn a wnânt—eu nod yw agor tua 30 o safleoedd newydd dros y degawd nesaf.