Hyrwyddo Cyfiawnder Cymdeithasol drwy Ddeddfwriaeth

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 30 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 2:20, 30 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw, ac rwy'n ddiolchgar iawn am eich ymrwymiad amlwg—a'ch ymrwymiad hirsefydlog—i gyfiawnder cymdeithasol. Yn eich sgyrsiau â'r proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru, pa gyfeiriadau a wnaed at y toriadau i gymorth cyfreithiol, ac a ydych yn cytuno bod toriadau Llywodraeth y DU yn golygu ei bod yn llawer anos i'r rhan fwyaf o bobl, yn enwedig pobl ddosbarth gweithiol, gael cyfiawnder yng Nghymru a ledled y DU gyfan? Ac a wnewch chi hefyd gytuno, Gwnsler Cyffredinol, i gyfarfod â mi a fy swyddfa i drafod y mater hwn ymhellach?