Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 30 Mehefin 2021.
Diolch am y cwestiwn. Yn amlwg, mater i chi yw cynnig deddfwriaethol gan Aelod, a mater i'r Senedd. Yr hyn rwy'n awyddus i'w wneud yw cael trafodaethau ar y cyd â'r proffesiwn cyfreithiol am y ffordd y gallwn ddarparu'r cyngor a'r cymorth sy'n rhoi cefnogaeth i'n cymunedau, yr holl rai mwyaf agored i niwed a'r rhai mewn angen. A hoffwn dynnu eich sylw hefyd at y ffaith mai cynigion y Llywodraeth Geidwadol sydd, i bob pwrpas, wedi eithrio cymorth cyfreithiol o'r holl faterion sy'n ymwneud â lles a meysydd cymdeithasol a arferai fodoli flynyddoedd lawer yn ôl a fyddai bellach, mae'n debyg, yn sylwedd y gefnogaeth i rai o'r amcanion sydd gennych mewn gwirionedd. Ond rwy'n fwy na pharod i gael trafodaethau pellach ar y mater hwnnw.