Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 30 Mehefin 2021.
Diolch am y cwestiwn hwnnw. Mae Deddf Marchnad Fewnol y DU 2021 yn tanseilio pwerau hirsefydlog y Senedd a Gweinidogion Cymru mewn materion sydd o fewn y cymhwysedd datganoledig. Yn yr her a gyflwynwyd gennym i'r Ddeddf, rydym wedi cael caniatâd i apelio. Mae'r Llys Apêl yn nodi ei fod yn codi materion pwysig o egwyddor ar y berthynas gyfansoddiadol rhwng y Senedd a Senedd y Deyrnas Unedig.