Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 30 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:34, 30 Mehefin 2021

Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol ddweud yn syth bin ddoe ei fod e'n gwrthod eich cynllun. Rydyn ni wedi cael dadl gref heddiw gan Mr Millar yn erbyn y cynllun. Bydd e'n amhosib cyflawni hyn heb Lywodraeth y DU. Gwnaethon nhw wrthod dod i—. Gwnaeth y Swyddfa Gartref wrthod rhoi tystiolaeth i gomisiwn Silk, comisiwn nhw eu hunain. Sut ydyn ni'n mynd i gael Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddod yn rhan o'r cynllun yma? Ydych chi'n aros, ydych chi'n ddibynnol ar i Lywodraeth Lafur ddod unwaith eto yn San Steffan, oherwydd, os ydych chi'n edrych ar etholiadau, os ydych chi'n edrych ar is-etholiadau, dyw hynny ddim yn bosib unrhyw bryd yn fuan? Diolch.