Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 30 Mehefin 2021.
Wel, mae'r ddeddfwriaeth a pha mor ddigonol yw hi yn amlwg yn fater sy'n cael ei adolygu. Mae nifer o sylwadau wedi'u gwneud am Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 ers ei gyflwyno, ac wrth gwrs, mae llawer o newidiadau demograffig wedi digwydd hefyd. Roedd y Mesur yn nodi'r fframwaith cyfreithiol sy'n ymwneud yn benodol â theithio a chludiant, a chafwyd gohebiaeth nid yn unig gan Aelodau o'r Senedd, ond hefyd gan Gomisiynydd y Gymraeg, gan aelodau o'r cyhoedd a Chomisiynydd Plant Cymru yn galw am adolygu'r Mesur. Felly, mae'r adolygiad hwnnw, fel y dywedais, wedi cychwyn. Nid yw wedi'i gwblhau, ond mae ar y gweill, a bydd y Gweinidog perthnasol, wrth gwrs, yn adrodd ar ganlyniad yr adolygiad hwnnw maes o law.