Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 30 Mehefin 2021.
Mae gennym ystod o fesurau diogelwch ar waith i ddiogelu Aelodau a staff. Rydym yn gweithio’n agos gyda Heddlu De Cymru, sy’n darparu presenoldeb arfog, mae gennym fynediad at wasanaethau diogelwch a chuddwybodaeth eraill, ac rydym yn cynnal archwiliadau cefndir ar bob deiliad pàs. Mae swyddogion diogelwch o holl ddeddfwrfeydd y Deyrnas Unedig yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd i drafod trefniadau a phryderon. Mae ein swyddogion diogelwch yn darparu hefyd sesiynau briffio diogelwch rheolaidd, gan gynnwys cyngor un i un, ac rydym yn cynghori ac yn cefnogi Aelodau a’u swyddfeydd etholaethol ar faterion diogelwch.