Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 30 Mehefin 2021.
Adeilad cyhoeddus yw'n Senedd ni. Pobl Cymru sydd biau'r Senedd yma, ac mae pobl Cymru i fod cael mynediad i’w Senedd nhw. Rŷn ni wedi sicrhau, dros y flwyddyn ddiwethaf o’n gwaith ni fel Senedd, bod y mynediad yna yn ddiogel o ran COVID, drwy sicrhau fod y mynediad yna ar-lein. Ond, wrth gwrs, rŷn ni i gyd eisiau cyrraedd sefyllfa lle mae pobl unwaith eto yn rhan o’n hystâd ni fan hyn, nid dim ond ni fel Aelodau ac aelodau o staff. Felly, byddwn ni’n cymryd y camau penodol pan fo'n ddiogel i’w gwneud i ganiatáu fwyfwy o ddefnydd o’r ystâd, ond mae’n rhaid gwneud hynny o fewn y cyfundrefnau sy’n bodoli, a phellter cymdeithasol yn enwedig, er mwyn cynnal diogelwch ein staff ni, ein Haelodau ni ac unrhyw ymwelydd i'r ystâd yma.