3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru ar 30 Mehefin 2021.
8. Pa gamau sy'n cael eu cymryd i adeiladu ar ymgyrch pleidlais 16 i sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn cael cyfle i ymgysylltu gyda gwaith yn y Senedd? OQ56707
Rydym wrthi'n gwerthuso llwyddiant yr ymgyrch pleidlais 16, a byddwn yn defnyddio'r wybodaeth honno, ynghyd â data ar y nifer a bleidleisiodd, i lywio ein dull o ymgysylltu â phobl iau yn y dyfodol. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r defnydd o sesiynau rhithwir gydag ysgolion a grwpiau ieuenctid wedi bod yn amhrisiadwy o ran cyrraedd cynulleidfaoedd ehangach. Byddwn yn parhau i ymgorffori hynny yn yr hyn a gynigwn i bobl iau yn ystod y chweched Senedd. Mae'r ymgyrch ar gyfer ail Senedd Ieuenctid Cymru ar y gweill, gydag enwebiadau ar gyfer ymgeiswyr yn lansio ar 5 Gorffennaf. Dyma fydd craidd ein gwaith ymgysylltu â phobl ifanc dros y ddwy flynedd nesaf.
Gwych. Diolch o galon i chi a diolch hefyd am y rôl wnaethoch chi ei chwarae i sicrhau bod gan bobl ifanc 16 a 17 yr hawl i bleidleisio yn yr etholiad eleni. Er i nifer o bobl ifanc fanteisio ar y cyfle hwnnw, dwi'n falch iawn o glywed y byddwch chi yn ymchwilio o ran sut oedd effeithiolrwydd yr ymgyrch honno, ond hefyd mae gen i ddiddordeb gwybod: ydy'r ymchwil yna hefyd yn mynd i gynnwys y rheini a wnaeth ddewis peidio â phleidleisio y tro yma? Rwy'n clywed gan nifer o bobl ifanc a oedd yn gyffrous iawn am y cyfle i bleidleisio eu bod nhw wedi ei cael hi'n anodd argyhoeddi eu cyfoedion i ddefnyddio'u llais, oherwydd eu bod nhw'n teimlo eu bod nhw ddim efo digon o wybodaeth ac ati a'u bod nhw ddim yn deall y lle yma digon. Felly, gan feddwl bod nifer o bobl yn 11 oed a 12 oed rŵan a fydd yn pleidleisio mewn pum mlynedd, oes yna fwriad i fynd ati i ddeall pam wnaeth pobl ddim dewis pleidleisio hefyd er mwyn llunio strategaeth i'r dyfodol?
Mae hwnna'n bwynt pwysig iawn, a hefyd, wrth gwrs, yr her i sicrhau bod pobl ifanc yn cofrestru yn y lle cyntaf. Mae'r ddau beth yn gysylltiedig, a'r ddau beth yn bwysig, ac felly fe fydd angen inni, wrth inni adlewyrchu ar yr etholiad a'r profiad mae pobl ifanc newydd ei gael o dderbyn yr hawl i bleidleisio'n 16 ac 17, sut y penderfynon nhw i bleidleisio a pham penderfynodd nifer ohonyn nhw efallai i beidio â phleidleisio—. Ac felly, yn sicr, dwi'n cytuno bod y ddwy agwedd o'r gwaith yna a'r ddwy garfan o bobl yna—mae'n bwysig i drafod gyda'r rhai a bleidleisiodd gyda'u hawliau newydd a'r rhai ddewisodd i beidio â gwneud neu doedd ddim hyd yn oed yn ymwybodol fod gyda nhw'r hawl i wneud hynny. Felly, ie, cytuno. Mae clywed lleisiau'r holl bobl ifanc yn bwysig iawn wrth inni feddwl amboutu sut rŷn ni'n paratoi ar gyfer etholiadau'r dyfodol, gan gynnwys, wrth gwrs, y bydd etholiad llywodraeth leol y flwyddyn nesaf ac fe fydd yna do unwaith eto newydd o bobl yn cael yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf.
Diolch, Llywydd.