Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 30 Mehefin 2021.
Cyfradd y Living Wage Foundation yn y Deyrnas Gyfunol, ac eithrio Llundain, ar hyn o bryd, yw £9.50 yr awr. Yr isafswm cyflog mynediad ar gyfer gweithwyr y Comisiwn yw £10.50 yr awr ar hyn o bryd. A cytunodd y Comisiwn blaenorol, o fis Ebrill 2020, y dylid talu pob staff contract y Comisiwn yn unol â'r isafswm cyflog mynediad i staff y Comisiwn, ac felly, yr isafswm cyflog i bob contractwr yw £10.50 yr awr hefyd.