Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 30 Mehefin 2021.
Diolch, Lywydd, ac fe fyddwch yn gwybod fy mod yn llysgennad Rhuban Gwyn balch iawn, ac rwy'n angerddol ynglŷn â lledaenu'r neges y dylai pob dyn wneud, ac yn bwysig, y dylai pob dyn gadw addewid y Rhuban Gwyn. Gwn eich bod chi eich hun, ac aelodau eraill o'r Comisiwn, yn y gorffennol a'r presennol, yn hyrwyddo'r achos hwn yn frwd, ac fel rydych wedi'i ddweud, rydych yn aml yn cefnogi'r achos ac wedi gwneud hynny dros flynyddoedd lawer.
Yn y Senedd ddiwethaf, roedd y Comisiwn yn edrych ar y posibilrwydd o gael achrediad Rhuban Gwyn, ac rwy'n awyddus i wybod pa gynnydd a wnaed mewn perthynas â hynny.