Cyfarfodydd y Comisiwn

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 30 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Conservative 3:38, 30 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am eich ateb, Lywydd. Fel un o'r Aelodau newydd o'r Senedd hon, roedd yn ymddangos i mi fod diffyg cysylltiad braidd rhwng rhai o'r cynigion newydd roedd y Comisiwn yn eu cyflwyno mewn rheolau a newidiadau i reolau yn ein gwaith, a'r hyn roedd Aelodau'n ei geisio mewn gwirionedd. Felly, rwy'n meddwl tybed, gyda threfniadau cyfarfod ac amserlen ar waith, sut y byddwch yn defnyddio'r cyfarfodydd hynny ac yn sicrhau ein bod yn ymgysylltu ag Aelodau, yn hysbysu'r Aelodau, ynghylch unrhyw newidiadau posibl yn y dyfodol?