Polisi Dadfeddiannu

Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 30 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 3:47, 30 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi negodi polisi gyda'i holl landlordiaid cymdeithasol ledled Cymru i beidio â throi pobl allan i ddigartrefedd. Nid oes polisi dadfeddiannu yn y sector rhentu preifat, ac mewn gwirionedd mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi camau na welwyd eu tebyg ar waith i gefnogi tenantiaid, atal digartrefedd a'u cynorthwyo i aros yn eu cartrefi.