5. Datganiadau 90 eiliad

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 30 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 4:09, 30 Mehefin 2021

Trist oedd clywed yr wythnos hon y bydd capel Bryn Seion yn Ystrad Mynach yn cau ei ddrysau am y tro olaf ddydd Sul. Mae’r capel wedi gwasanaethu’r ardal ers 1906, ac wedi bod yn ganolbwynt bywyd Cymraeg nid yn unig yn nhref Ystrad Mynach, ond trwy'r cwm cyfan. Cangen yr hen gapel yn Hengoed oedd hi, a dros flynyddoedd lawer bu cenedlaethau o deuluoedd yn marcio cerrig milltir bywyd y tu mewn i'w waliau: bedyddiadau, priodasau, angladdau. Bu cymaint ohonom yn mynychu clwb ieuenctid, Band of Hope, yn y festri pan oeddem yn fach, ac yn cymryd rhan yn nrama’r geni—weithiau’n Mair, weithiau’n fugail, weithiau’n seren yn y nen.

Nid adeilad yn unig oedd Bryn Seion, ond canolbwynt cymuned: lle i ddathlu a chysegru, i goffáu a galaru, adeilad lle’r hoffech chi weld y waliau nid yn unig yn siarad ond yn dawnsio, yn canu eu gorfoledd. Bydd ei golled yn cael ei deimlo nid yn unig yng nghymuned y Bedyddwyr, ond mewn teuluoedd ac mewn strydoedd ar wasgar trwy'r cwm. Ac er bydd y niferoedd yn y gwasanaeth yn gyfyng ddydd Sul, yn yr ysbryd bydd y capel dan ei sang â hen gyfeillion.