Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 30 Mehefin 2021.
Diolch, Gareth, am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol cyntaf i'r Senedd newydd hon.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal a diogelu hawliau holl bobl hŷn Cymru. Rwy'n glir nad yw oedran yn lleihau hawl unigolyn i gael ei drin ag urddas a pharch. Mae'r pandemig, fel y mae siaradwyr yma heddiw eisoes wedi nodi, wedi miniogi ymwybyddiaeth cymdeithas o bwysigrwydd hawliau dynol, a chyfeiriwyd sawl gwaith at rai o'r materion sydd wedi codi yn ystod y pandemig.
Hoffwn wneud ychydig o bwyntiau i egluro rhai o'r datganiadau a wnaed. Ar ymweld â chartrefi gofal, ni fu unrhyw waharddiad cyffredinol ar ymweliadau â chartrefi gofal. Mae bob amser wedi bod yn bosibl i ymwelwyr fynd i gartrefi gofal mewn amgylchiadau penodol, ond rwy'n derbyn y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud: at ei gilydd, mae wedi bod yn sefyllfa drist iawn i bobl mewn cartrefi gofal a'u perthnasau. Ond ni fu unrhyw waharddiad cyffredinol.
Fel y dywedaf, mae'r pandemig wedi miniogi ein hymwybyddiaeth, ond cyn yr achosion cyntaf o COVID-19 mewn cartrefi gofal, roedd rhaglen waith eisoes ar y gweill i wneud hawliau'n real i bobl hŷn. Mae hawliau pobl hŷn eisoes wedi'u hymgorffori yn Neddf Hawliau Dynol y DU 1998, ac mae oedran yn nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Yn benodol yng Nghymru, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw dyledus i egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn, ac mae'n rhoi llais cryf i bobl hŷn yn y trefniadau ar gyfer unrhyw ofal y gallai fod ei angen arnynt.
Fel rhan o'n gweithgarwch i gydgynhyrchu strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio, trefnwyd gweithgor i ddatblygu canllawiau ymarfer, i ddangos sut y gall gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol sefydlu dull sy'n seiliedig ar hawliau. Roedd aelodaeth y grŵp yn cynnwys pobl hŷn, academyddion blaenllaw a chynrychiolwyr o'r trydydd sector a'r comisiynydd pobl hŷn. Mae'r canllawiau, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2020, yn defnyddio enghreifftiau ymarferol i ddangos sut y gall awdurdodau lleol roi sylw dyledus i egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn, fel sy'n ofynnol gan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant. Mae'n dangos sut y gall newidiadau syml i'r ffordd rydym yn gweithio gynnal hawliau dynol unigolyn a gall gael effaith fawr ar eu llesiant.
I lawer, bydd y canllawiau hyn yn ailddatgan mai'r dull y maent yn ei arfer yw'r un cywir. Fodd bynnag, rwyf am i'r canllawiau lywio pob agwedd ar gynllunio gwasanaethau—comisiynu, tendro, darparu a gwerthuso. Byddaf yn parhau i gael cyngor gan grŵp cynghori'r Gweinidog ar heneiddio ar sut y defnyddiwn yr adnoddau hyn yn y ffordd fwyaf effeithiol. Cynhyrchodd y grŵp fersiwn o'r canllawiau hyn ar gyfer pobl hŷn hefyd, ac rwy'n gobeithio y caiff y ddwy ddogfen eu defnyddio gyda'i gilydd i lywio sgyrsiau ac ysbrydoli dealltwriaeth gyffredin o effaith drawsnewidiol dull sy'n seiliedig ar hawliau.
Ym mis Ionawr 2020, fe wnaethom gynnal ymgyrch hawliau pobl hŷn a hyrwyddwyd drwy'r wasg, hysbysebion radio a'r cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn parhau i nodi opsiynau ar gyfer hyrwyddo hawliau wrth inni gyhoeddi'r strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio ym mis Medi. Bydd gennym gynllun cyflawni ategol erbyn diwedd y flwyddyn. Bydd dull sy'n seiliedig ar hawliau yn hanfodol i wireddu ein 10 amcan llesiant, fel y nodir yn ein rhaglen lywodraethu newydd. Dau o'r amcanion yw: diogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl sy'n agored i niwed; a dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math.
Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at grwpiau eraill mewn cymdeithas sydd hefyd yn profi effaith ddifaol anghydraddoldeb ac yn haeddu cael eu hawliau wedi'u diogelu'n well. Bu galwadau i ddeddfu'r Confensiwn ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod, a hefyd i ddod â chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl yn rhan o gyfraith Cymru, ac rydym yn cefnogi'r galwadau hyn. Fodd bynnag, byddai cyflwyno darnau ar wahân o ddeddfwriaeth i fynd i'r afael ag anghenion grwpiau unigol yn arwain at ddull tameidiog o weithredu. Gall hefyd ei gwneud yn anos deall sut y mae pobl sy'n byw gyda mwy nag un nodwedd warchodedig yn profi anghydraddoldeb.
Ceir dadl gref dros fabwysiadu ymagwedd fwy uchelgeisiol a chyfannol tuag at ddeddfu ar gyfer hawliau dynol. Er mwyn llywio'r dull hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymchwil i archwilio'r opsiynau sydd ar gael i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Mae'r ymchwil yn ystyried y posibilrwydd o ymgorffori confensiynau'r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru ac a allai fod angen deddfwriaeth newydd, megis Bil hawliau dynol i Gymru neu newidiadau i'r ddeddfwriaeth bresennol. Mae'r adroddiad drafft terfynol wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru, ac rydym bellach yn gallu dweud y rhagwelir ei gyhoeddi erbyn diwedd cyfnod yr haf. Fel rhan o'r gwaith, cyfarfu'r tîm ymchwil â fforwm cynghori'r Gweinidog ar heneiddio, a nifer o sefydliadau cydraddoldeb cymunedol sy'n cynrychioli pobl â nodweddion gwarchodedig gwahanol. Hefyd, casglwyd tystiolaeth drwy gyfrwng grwpiau ffocws gan grwpiau lleiafrifol ar y cyrion sydd â phrofiad byw, a bwriedir i Lywodraeth Cymru ymgynghori ar unrhyw opsiynau neu fodelau deddfwriaethol sy'n codi o'r ymchwil.
I gloi, er fy mod wedi ymrwymo i gynnal a diogelu hawliau holl bobl hŷn Cymru ac yn derbyn llawer o'r pwyntiau a wnaed gan y cyfranwyr yn y ddadl heddiw, ni allaf gefnogi'r cynnig hwn. Pan fyddwn yn deddfu, dylem wneud hynny'n gyfannol ar gyfer y gymdeithas gyfan ac mewn ffordd sy'n cydnabod cymhlethdod bywydau a phrofiadau pobl.