Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 30 Mehefin 2021.
Ond, gan droi’n ôl at y targedau hynny, oherwydd maent yn chwarae rhan bwysig— mae targedau'n gosod y cywair a'r cyfeiriad—sut y mae'r dirwedd honno'n edrych yn rhyngwladol? Daeth targedau'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol i ben yn 2020; roeddent yn dargedau byd-eang i wrthdroi colli bywyd gwyllt a dirywiad yn yr amgylchedd naturiol, a chadarnhaodd y Cenhedloedd Unedig ein bod ni i gyd wedi methu'n llwyr â’u cyflawni. A phan fyddwch yn methu cyflawni targed fel hwnnw, nid yw'n aros yn ei unfan—mae'r golled honno, y dirywiad hwnnw, yn parhau i ddigwydd yn gyflym. Mae'r sefyllfa'n gwaethygu. Mae gennym rwymedigaeth yn awr i ailosod targedau bioamrywiaeth ac i ategu'r rheini â buddsoddiad, gyda chynlluniau ar gyfer atebion ar sail natur, prosiectau i ganolbwyntio ar adfer rhywogaethau a newidiadau a fydd yn blaenoriaethu cynefinoedd gwyrdd a glas iach ledled Cymru.
Heddiw, rwy'n falch o gael fy mathodyn hyrwyddwr rhywogaethau gyda mi: fi yw hyrwyddwr rhywogaethau'r gardwenynen feinlais, un o lawer o rywogaethau yng Nghymru y mae eu niferoedd wedi lleihau dros yr ychydig ddegawdau diwethaf. Oherwydd colli cynefin, am fod pobl yn torri gweirgloddiau blodeuog neu'n adeiladu arnynt, mae niferoedd y wenynen hon yng Nghymru a Lloegr wedi gostwng 90 y cant ers y 1970au. Erbyn hyn, mae gan wastadeddau Gwent yn fy rhanbarth un o'r unig boblogaethau a geir ar yr ynysoedd hyn, a dyna pam ei bod mor bwysig nad yw gwastadeddau Gwent a safleoedd eraill o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cael eu defnyddio ar gyfer ffermydd solar, neu ffyrdd yn wir. Dyna pam fod y gwaith y mae Cyfeillion Gwastadeddau Gwent yn ei wneud mor bwysig.
Nawr, yn anffodus mae'r gardwenynen feinlais ymhell o fod ar ei phen ei hun fel rhywogaeth sydd mewn perygl. Canfu'r adroddiad ar sefyllfa byd natur yn 2019 fod un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu. Dyna 10 y cant o'n planhigion, 36 y cant o famaliaid a 5 y cant o infertebratau fel gloÿnnod byw, malwod a gwenyn. Ac unwaith eto, rwy'n gwybod y gallwn i gyd fynd ar goll neu gael ein gorlethu gan y ffigurau weithiau, y canrannau, a gwrando ar y rhestrau hyn—yr hyn y mae'n ei olygu yw bod ecosystemau cyfan yn cael eu peryglu. Mae rhywogaethau o loÿnnod byw wedi gostwng 52 y cant yng Nghymru ers 1976, ac mae mamaliaid fel y wiwer goch a llygod y dŵr mewn perygl o ddiflannu. Mae poblogaethau draenogod wedi gostwng 60 y cant ers 1995, o fewn fy oes i, ac mae niferoedd y llinos werdd drawiadol wedi gostwng 71 y cantl. Nawr, ers y 1970au, mae 73 o rywogaethau wedi'u colli yng Nghymru; maent wedi mynd, ac mae cyflymder y difodiant hwnnw'n cynyddu.
Nawr, y trychinebau hyn, y trallod hwn—ni sydd ar fai. Mae colli natur yn cael ei lywio gan weithgareddau dynol fel rheolaeth amaethyddol, trefoli ein tirweddau, llygredd afonydd, llygredd aer, rheoli coetiroedd. Oes, mae yna ffactorau eraill: newid hinsawdd—rhywbeth rydym ni, unwaith eto, yn cyfrannu ato—yn ogystal â rhywogaethau estron goresgynnol. Ond wrth inni gyfrannu tuag at y dirywiad, rydym hefyd yn dioddef o ganlyniad iddo. Mae natur yn darparu ein cynhaliaeth a'n bwyd, ein hegni a'n meddyginiaethau. Mae'r adroddiad asesu byd-eang ar fioamrywiaeth a gwasanaethau ecosystemau, sydd unwaith eto'n deitl hir, ond mae'n cydnabod bod colli natur yn cyfrannu at dlodi, at iechyd y cyhoedd a gwrthdaro. A byddwn yn ychwanegu annhegwch sy'n pontio'r cenedlaethau at y rhestr honno. Rydym yn dwyn rhywogaethau na fyddant byth yn cael rhannu'r byd â hwy oddi wrth genedlaethau'r dyfodol. Rydym yn eu hamddifadu o deimladau o ryfeddod, o lawenydd, ar y blaned hon, heb sôn am gwestiwn moesoldeb a’r ffaith nad oes gennym hawl i ddinistrio'r byd naturiol.
Felly, Ddirprwy Lywydd, beth sy'n rhaid digwydd? Mae'n hen bryd inni ddatgan argyfwng natur yng Nghymru, ac fel y mae ein cynnig yn nodi, yn sgil y datganiad hwnnw, mae'n rhaid felly i Lywodraeth Cymru gyflwyno targedau sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth a dechrau cynllunio sut i adfer yr hyn a gollwyd. Rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i sefydlu corff llywodraethu annibynnol i Gymru. Nawr, nodaf fod gwelliant y Ceidwadwyr yn galw am gydweithrediad ac wrth gwrs, mae cydweithredu'n hanfodol ar y mater hwn, ond ni ellir mynd i'r afael â'r argyfwng ar sail y DU. Mae Bil Amgylchedd y DU yn sôn am swyddfa diogelu'r amgylchedd ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon yn unig. Mae gan yr Alban ei chorff safonau amgylcheddol ei hun. Mae angen i ni yng Nghymru gyflwyno ein deddfwriaeth sylfaenol ein hunain, ein strwythur llywodraethu ein hunain, felly mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno Bil natur, Bil llywodraethu amgylcheddol—beth bynnag y dewiswch ei alw—gwneud iddo weithio, sicrhau ei fod yn cwmpasu targedau natur, gwneud iddo sefydlu corff llywodraethu cadarn yn lle'r amddiffyniadau a gollwyd ar ôl inni adael yr UE, sicrhau bod yr holl bortffolios gweinidogol, yn enwedig amaethyddiaeth a newid hinsawdd, yn mynd i’r afael â’r argyfwng hwn, a sicrhau y gellir dwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif os ydynt yn gweithredu mewn ffyrdd nad ydynt yn cyd-fynd â’r nod o wrthdroi colli bioamrywiaeth.
Mae Croeso Cymru yn gwneud llawer o'n golygfeydd ysblennydd yn ei hysbysebion, ac mae'n defnyddio'r slogan 'Find Your Epic'. Oni bai ein bod yn datgan argyfwng natur yng Nghymru heddiw, oni bai ein bod yn trin yr argyfwng natur a'r argyfwng hinsawdd sy'n ein hwynebu gyda'r un ymdeimlad o frys, ac oni bai ein bod yn cymryd y camau a nodir yn ein cynnig i wrthdroi'r dirywiad, ni fydd unrhyw beth 'epig' i'w gael ar ein bryniau cyn bo hir. Bydd yr holl harddwch, yr holl fywyd hwnnw, yr holl amrywiaeth wedi ei golli. Dywedodd Jules Renard:
'Nid oes nefoedd ar y ddaear, ond mae yna ddarnau ohoni.'
Gadewch inni chwarae ein rhan i sicrhau bod jig-so natur yn cadw ei gyfoeth, ac nad yw'r darnau sy'n ffurfio'r jig-so mawreddog hwn o'r byd naturiol yn mynd ar goll am na allem drafferthu eu hachub.