Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 30 Mehefin 2021.
—yn chwarae rhan bwysig. Mae arnom ei angen ar gyfer y bwyd rydym yn ei fwyta, yr aer rydym yn ei anadlu, a'r dŵr rydym yn ei yfed. Rwy'n dod i ben. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos ei bod o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â'r argyfwng natur drwy ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth yn ystod blwyddyn gyntaf y Llywodraeth i osod targedau sy'n rhwymo mewn cyfraith ar gyfer adfer natur er mwyn cyfuno ymdrechion ar draws y Llywodraeth a sectorau eraill i atal a gwrthdroi colli bioamrywiaeth. Diolch.