Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 30 Mehefin 2021.
Yn arbennig, ar y blychau gwenoliaid duon, rwy'n falch iawn o ddweud ein bod yn eu cynnwys yn ein rhaglen dai arloesol. Mae gennym frics gwenoliaid duon yn mynd i fyny ar nifer o dai cymdeithasol ledled Cymru, ac rydym yn edrych—ac mae fy nghyd-Aelod Lee Waters yn enwedig yn edrych—ar fioamrywiaeth ar hyd llwybrau ffyrdd a llwybrau rheilffyrdd, gan gynnwys ymgorffori blychau gwenoliaid duon a blychau nythu eraill fel y bo'n briodol ar hyd y llwybrau hynny. Felly, gall y mathau hyn o gamau gweithredu wneud gwahaniaethau bach ond pwysig iawn yn y ffordd y mae adar mudol yn enwedig yn cael eu derbyn yng Nghymru. Ac rwy'n falch iawn o fod wedi'u gweld; dim ond yn ddiweddar iawn y gwelais wennol ddu yn fy ngardd fy hun, ac roedd yn olygfa hyfryd.
Ac wrth gwrs, rydym wedi cydnabod yr argyfwng natur sy'n gwaethygu ac rydym ni, ynghyd â gweddill y byd, yn cydnabod yn llwyr nad ydym eto wedi gwneud digon o gynnydd tuag at y nod o wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Ac wrth gwrs, mae cysylltiad anorfod rhwng yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur. Mae'r naill yn deillio o'r llall. Newid hinsawdd yw un o'r prif ffactorau sy'n arwain at golli bioamrywiaeth. Gall newidiadau yn y tymheredd neu lawiad beri i gynefinoedd a rhywogaethau gael eu colli, gan leihau cydnerthedd yr ecosystemau yn gyffredinol. Nid yw'n fater o naill ai/neu, neu 'braf i'w gael'; mae cysylltiad cwbl annatod rhwng y pethau hyn. Gall colli bioamrywiaeth, yn enwedig mewn mannau fel mawnogydd, leihau gallu natur i storio carbon, gan waethygu newid hinsawdd mewn cylch dieflig cynyddol. Rhaid inni ymyrryd yn y cylch hwnnw a gwrthdroi'r newid.
Nid yw hyn yn beth bach i'w ddweud, ac mae'n beth mwy fyth i'w wneud. Rydym i gyd yn gwybod hynny. Ond nid yw'n gwbl anobeithiol, ychwaith. Mae pethau y gallwn ac y dylem eu gwneud o hyd, ond nid yw'r rhain yn bethau hawdd ac nid ydynt yn bethau syml. A bydd yn rhaid i lawer ohonoch yma yn y Siambr ystyried eich blaenoriaethau penodol eich hun yn ofalus iawn yn ogystal â'r ffordd rydych yn ymddwyn, a Llywodraeth Cymru hefyd, oherwydd bydd angen inni wneud hyn gyda'n gilydd a gwneud y penderfyniadau anodd iawn hynny.
Felly, mae lleihau'r pwysau uniongyrchol ar natur yn sgil newid hinsawdd yn ogystal â llygredd a defnydd anghynaliadwy yn rhan annatod o'r camau sydd eu hangen i atal colli bioamrywiaeth. Fel Llywodraeth, rydym yn gweithredu i leihau'r pwysau mawr ar ein hecosystemau. Bydd hyn yn cynnwys gwella ansawdd dŵr, lleihau llygredd aer, datgarboneiddio a'r economi gylchol. Rydym hefyd yn parhau i fuddsoddi'n sylweddol yn ein hamgylchedd naturiol i adfer a chreu rhwydweithiau ecolegol gwydn ledled Cymru. Mae'r rhain, wrth gwrs, yn darparu'r manteision niferus y mae llawer o Aelodau wedi sôn amdanynt yn y ddadl heddiw, megis rheoli llifogydd, adfer pridd, dal a storio carbon a chaniatáu i rywogaethau symud, ac yn wir, i addasu i'r newid.
Mae llawer o'n gwaith cyfredol yn cyfrannu at y rhwydweithiau natur hyn yn awr. Bydd cynllun Creu Coetir Glastir a'r goedwig genedlaethol yn cefnogi bioamrywiaeth drwy greu coetiroedd mwy cymysg, gan wella a chysylltu coetiroedd presennol wrth i ni fynd yn ein blaenau. Ac unwaith eto mae fy nghyd-Aelod, Lee Waters, wedi archwilio gweithgarwch plannu coed yng Nghymru yn fanwl i weld sut y gallwn sicrhau ein bod yn plannu mwy o'r coed cywir mewn mwy o'r mannau cywir cyn gynted â phosibl er mwyn gwella ein coetiroedd, gwella ein gallu i ddal a storio carbon ac wrth gwrs, er mwyn creu ein coedwig genedlaethol.
Bydd y rhaglen weithredu genedlaethol ar fawndir hefyd yn gwella cydnerthedd ecosystemau mawndir ledled y wlad ac yn cyfrannu at liniaru effeithiau newid hinsawdd. Mae gennym brosiect ardderchog ar y gweill yng ngogledd Gŵyr, yn etholaeth fy nghyd-Aelod Rebecca Evans, sef cynllun Cwm Ivy, lle'r ydym yn helpu i adfer y morfa heli yng ngogledd Gŵyr i greu tua 39 hectar o forfa heli yn sgil gorlif dros yr amddiffynfeydd môr yng Nghwm Ivy. Bydd y morfa heli newydd wrth gwrs yn helpu i ddarparu cynefin i wrthbwyso'r golled debygol o gynefin morfa heli yn y dyfodol oherwydd cyfuniad o gynnydd yn lefel y môr oherwydd newid hinsawdd a'r angen am amddiffynfeydd newydd rhag llifogydd arfordirol ledled Cymru. Ac fel hyn, mae angen inni gael rhaglen integredig, o amddiffynfeydd rhag llifogydd ar gyfer ein cymunedau ond hefyd i liniaru'r effaith ar rywogaethau sydd angen y mannau rhynglanwol hyn i allu ffynnu. Wrth gwrs, mae morfeydd heli hefyd yn cyfrannu at ddal a storio carbon a nifer o wasanaethau ecosystem eraill.
Y rheswm rwy'n dweud hynny, Ddirprwy Lywydd, yw oherwydd nad yw'r economi a'n hecoleg, ein natur a'n hecosystemau yn gwrthdaro. Mae llawer o'r pethau rydym am eu gwneud i liniaru effeithiau newid hinsawdd ac i helpu i gynyddu ac adfer bioamrywiaeth hefyd yn helpu ein heconomi, a gall y pethau hynny fynd law yn llaw. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol nad yw'r Siambr hon yn eu gweld fel pethau sy'n gwrthdaro, fel dewis naill ai/neu, ond yn hytrach fel cyfanwaith integredig y gallwn gydweithio arno i sicrhau bod gan bobl swyddi'r dyfodol nad ydynt yn dinistrio ein planed.
Mae gennym gronfa rhwydweithiau natur, gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, i wella cyflwr, cysylltedd a chydnerthedd rhwydweithiau safleoedd gwarchodedig ar y môr ac ar y tir yng Nghymru i'w galluogi i weithio'n well wrth wraidd y rhwydweithiau natur—ardaloedd hanfodol o gydnerthedd ecolegol lle gall cynefinoedd a rhywogaethau ffynnu ac ehangu. Rhaid i hyn fod yn ganolog i'n polisi rheoli tir cynaliadwy yn y dyfodol. Rydym wedi ymrwymo i symud cymorth ariannol a ddarparwn ar gyfer amaethyddiaeth fel ein bod yn gwobrwyo ffermwyr yn iawn am y canlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol y maent yn eu cyflawni ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys dŵr ac aer glân wrth gwrs, dal a storio carbon a chreu ac adfer cynefinoedd gwerthfawr ar eu tir.
Rydym yn cydnabod hefyd mai rhan bwysig o fynd i'r afael â'r argyfwng natur a hinsawdd yw ymgysylltu a chyfeirio grym unigolion a chymunedau lleol i weithredu, a thynnodd Mabon ac eraill sylw yn dda iawn at yr hyn y gall cymunedau lleol ei wneud pan ddônt at ei gilydd yn eu hardal leol. Mae ein cronfa rhwydweithiau natur hefyd wedi'i chynllunio i greu rhwydweithiau o bobl sy'n cymryd rhan yn y safleoedd hynny, a gwneir hyn drwy gynyddu nifer ac arallgyfeirio canolfannau gwirfoddoli, cefnogi mentrau gwyddoniaeth dinasyddion, a chynlluniau hyfforddi megis Kickstart. Roeddwn yn meddwl bod enghraifft Mabon yn un dda iawn hefyd.
Mae ein rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn annog pawb i ymgysylltu â natur, i werthfawrogi natur ac i greu natur ar garreg eu drws. Fel y nododd Siân, rhaid canolbwyntio ar ardaloedd trefol, yn enwedig cymunedau mwyaf difreintiedig Cymru a'r rhai lle nad yw natur yn hygyrch iawn iddynt, er mwyn sicrhau bod pob un o'n cenedlaethau iau, cenedlaethau'r dyfodol, yn ymwneud â'r amgylchedd naturiol.
Mae buddsoddi yn ein hamgylchedd naturiol yn cyfrannu at ein huchelgais a nodir yn y rhaglen lywodraethu i adeiladu economi werdd gryfach. Bydd y buddsoddiad hwn yn cefnogi datblygu sgiliau a swyddi gwyrdd, fel y dywedais. Fel gwlad fach, mae gennym uchelgeisiau ar gyfer mynd i'r afael â'r argyfwng natur nid yn unig ar lefel leol, ond ar y llwyfan byd-eang hefyd. Rydym yn cefnogi datblygiad fframwaith bioamrywiaeth byd-eang ôl-2020 y confensiwn ar amrywiaeth biolegol, sy'n galluogi gweithredu beiddgar i sbarduno newid er mwyn atal colli bioamrywiaeth. Mae ein blaenoriaethau'n cynnwys prif ffrydio ystyriaeth o fioamrywiaeth ym mhob penderfyniad, cryfhau capasiti a gallu i weithredu atebion ar sail natur, a rhannu arferion gorau yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Rydym wrthi'n datblygu'r fframwaith monitro a dangosyddion ôl-2020, gan weithio gyda DEFRA ar lefel y wladwriaeth. Rydym yn rhagweld fframwaith bioamrywiaeth byd-eang newydd gyda nodau a thargedau clir yn dilyn y confensiwn ym mis Hydref.
Drwy broses Caeredin ar gyfer llywodraethau is-genedlaethol rydym wedi llofnodi datganiad Caeredin, sy'n galw ar bartïon i'r confensiwn i gymryd camau cryf a beiddgar i sicrhau newid trawsnewidiol. Mae hefyd yn cydnabod rôl hanfodol llywodraethau is-genedlaethol, dinasoedd ac awdurdodau lleol yn y broses o gyflawni'r weledigaeth honno.
Ddirprwy Lywydd, gallwn barhau i siarad am tua 40 munud am yr holl bethau rydym yn eu gwneud, ond gallaf weld eich bod yn colli amynedd. Mae hwn yn bwnc pwysig iawn fodd bynnag, a chredaf mai'r peth olaf rwyf am ei gyfleu i bobl yw bod angen inni gael corff llywodraethu amgylcheddol i Gymru. Byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth ar gyfer hynny, a byddwn yn edrych ar dargedau bioamrywiaeth, ond byddwn yn edrych ar y rheini yng nghyd-destun y fframwaith byd-eang, fframwaith y DU, ac i sicrhau nad oes gennym ganlyniadau anfwriadol yn sgil gosod targedau mewn maes penodol sy'n golygu bod meysydd pwysig eraill yn cael eu colli. Byddaf yn croesawu gwaith ar draws y pleidiau yn y Siambr hon i sicrhau ein bod yn gosod y targedau sy'n llywio'r camau gweithredu sy'n bwysig. Nid y targedau sy'n sbarduno'r newid, ond y camau gweithredu. Dull o fesur yn unig yw'r targedau—mae angen y camau gweithredu i sicrhau bod Cymru'n chwarae ei rhan lawn yn y gwaith o fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur ar y llwyfan byd-eang. Diolch.