Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 30 Mehefin 2021.
Rwy'n diolch i Janet Finch-Saunders am ei haraith. Rwy'n cydnabod hefyd nad yw datgan argyfwng ar ei ben ei hunan ddim yn cyflawni digon, fel roedd y Gweinidog newydd ddweud. Dyna pham rŷn ni hefyd yn cynnig targedau ar lywodraethiant y pethau sydd angen cael eu gwneud, ond rwy'n hoffi'r ddelwedd o obaith a'r cresendo o weithredu yr oedd hi'n sôn amdano.