Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 30 Mehefin 2021.
Nawr, mae'n glir o'r cyfraniadau fod natur mewn argyfwng yng Nghymru, ond bod hefyd gennym ni gyfle nawr i newid hynny—cyflwyno targedau adfer natur sy'n gyfreithiol rwymol, fydd yn llywio buddsoddiad, monitro a gwelliant, canys heb ddeddfwriaeth yn y gorffennol, dydy'r targedau sydd wedi cael eu gosod ddim wedi cael eu gwireddu. Rwy'n deall safbwynt y Ceidwadwyr yma, ond buaswn i'n erfyn arnyn nhw i gefnogi ein cynnig heb ei ddiwygio. Am ddatganiad clir fyddai hynny—bob plaid yn ein Senedd yn cefnogi.