Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
Felly, unwaith eto, mae hwnnw yn fater pwysig iawn, ac yn sicr, fel Llywodraeth Cymru—ac fe fyddwch yn ymwybodol bod llawer o'r materion a godwyd gennych chi yn eich cwestiwn wedi eu cadw i Lywodraeth y DU—gyda'r ysgogiadau sydd gennym ni, er enghraifft, rydym ni wedi sicrhau bod ein rhaglen ReAct wedi ariannu cannoedd o yrwyr cerbydau nwyddau trwm. Felly, mae'r trafodaethau hynny yn parhau. Rydym ni hefyd wedi cymeradwyo cais gan Goleg Castell-nedd Port Talbot i gynnig cyrsiau mewn gyrru cerbydau nwyddau a cherbydau sy'n cario teithwyr. Ond gwn fod cyd-Weinidogion wedi bod yn annog Llywodraeth y DU i sicrhau bod yr ôl-groniad o brofion y cyfeiriasoch ato yn cael sylw yn y dyfodol agos iawn.