Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
Rydym yn hynod bryderus o glywed yr adroddiadau am brinder sgiliau eang ar draws y sector logisteg, yn enwedig gyrwyr, a'r effeithiau canlyniadol y gallai hyn eu cael ar gadwyni cyflenwi hanfodol, gan gynnwys bwyd. Rydym ni'n gweithio yn agos gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i sicrhau bod cadwyni cyflenwi bwyd Cymru yn cael eu diogelu.