Gofal Plant Rhan-amser am Ddim

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 6 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:41, 6 Gorffennaf 2021

Mae'n fy synnu i cyn lleied o flaenoriaeth ydy addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant i'r Llywodraeth hon. Mae astudiaethau yn dangos pa mor allweddol ydy creu darpariaeth lawn mewn cymunedau difreintiedig er lles addysg y plant ac er mwyn codi teuluoedd o dlodi. Ac eto, mae model y Llywodraeth hon a'r cynllun gofal plant gwallus wedi cael ei gynllunio ar sail galw yn hytrach nag angen. Ydych chi'n cytuno bod angen ailfeddwl yr holl strategaeth ar gyfer ein plant ieuengaf, a hynny ar frys?