Ymgynghoriadau Wyneb yn Wyneb â Chlinigwyr

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 6 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 2:04, 6 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, mae llawer o bobl yn aros nid yn unig am driniaeth ond am apwyntiad gyda chlinigydd i asesu difrifoldeb eu cyflwr. Wrth gyflwyno rhaglen frechu COVID, daethpwyd a llawer o glinigwyr a oedd wedi ymddeol i mewn i ychwanegu capasiti pellach yr oedd wir ei angen i helpu i frechu pobl. A yw'r Llywodraeth wedi ystyried pa un a ellid dod â chlinigwyr sydd wedi ymddeol i mewn dros dro mewn rhai arbenigeddau i helpu i gael drwy'r asesiadau niferus sydd eu hangen nawr? Diolch.