Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
Diolch i'r Trefnydd ar ran y Prif Weinidog. Cyn inni symud ymlaen i'r eitem nesaf, os caf i jest atgoffa Aelodau nad yw baneri yn gefndir ar Zoom yn dderbyniol. Dwi'n gweld bod yr Aelod a wnaeth hynny ddim bellach yn y cyfarfod Zoom, ond os caf ofyn i gynrychiolydd o Blaid Cymru siarad gyda'r Aelod hwnnw, ac i sicrhau nad yw'r faner yna ar gyfer y tro nesaf y mae'r Aelod yna'n disgwyl i siarad yn y ddadl.