Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
Croesawodd Llywodraeth Cymru yr adroddiad 'Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i'w cyflawni'n well', a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ym mis Hydref 2019. Yn dilyn argymhellion y pwyllgor, rydym ni'n gwella'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau lles a byddwn yn parhau i archwilio sut y byddai datganoli'r system fudd-daliadau ymhellach yn gwella canlyniadau i bobl yng Nghymru.