Part of the debate – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
Diolch, Llywydd. Mae sawl newid i fusnes heddiw: bydd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn cyflwyno'r datganiad ar y rhaglen ddeddfwriaethol; bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad ar fforddiadwyedd, ail gartrefi a'r iaith Gymraeg, ac yn olaf, bydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn gwneud datganiad ar ddiwygio'r cwricwlwm—y camau nesaf. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.