3. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 6 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 3:05, 6 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Mater arall yr wyf i'n gwybod bod etholwyr yng Nghaerdydd ac mewn mannau eraill yn teimlo'n gryf iawn yn ei gylch yw diogelwch adeiladau. Mae yna bobl, dafliad carreg o'r Senedd hon, nad ydyn nhw'n cysgu'r nos. Mae pobl yn cael eu parlysu gan bryder—pobl yn ofni am eu diogelwch eu hunain a diogelwch eu hanwyliaid. Pam nad oes yna unrhyw beth yn y datganiad deddfwriaethol hwn am ddiogelwch adeiladau? Pam rydym yn caniatáu i fywydau pobl aros yn yr unfan?

Nid oes deddfwriaeth yma i ddiwygio ein system drafnidiaeth ni, sy'n hanfodol wrth inni adeiladu yn ôl yn well ar ôl COVID ac yn bwysig yn ein brwydr ni yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.