4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Fforddiadwyedd, Ail Gartrefi a'r Gymraeg

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 6 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 3:43, 6 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Bu cryn sylw a thrafodaeth dros y misoedd diwethaf am ail gartrefi ac, y tu hwnt i hynny, tai fforddiadwy i bobl ifanc yng Nghymru. Rydym ni'n ymwybodol iawn o'r heriau a wynebwn ac rydym eisoes wedi cymryd camau clir tuag at fynd i'r afael â'r rhain. Fodd bynnag, gallwn wneud mwy a byddwn yn gwneud mwy. Wrth ymgymryd â'r gwaith hwn, rydym wedi gwrando ar alwadau gan gymunedau ledled Cymru ac wedi gweithredu arnyn nhw. Rydym ni wedi cynnal trafodaethau trawsbleidiol, ac adlewyrchir ein penderfyniad clir i fynd i'r afael â'r heriau a wynebwn yn ein rhaglen lywodraethu ac mewn ymrwymiadau gweinidogol.

Rydym wedi croesawu gwaith rhagorol ac argymhellion clir Dr Simon Brooks yn ei adroddiad, 'Ail gartrefi: datblygu polisïau newydd yng Nghymru'. Yn wir, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a minnau wedi ysgrifennu at Dr Brooks, yn nodi ein hymateb ac yn amlinellu ein camau nesaf. Llywydd, mae hon yn llywodraeth sy'n benderfynol o gymryd camau gwirioneddol ac uchelgeisiol, a heddiw rwy'n nodi ein dull tair elfen o fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu ein cymunedau.

Mae llawer o'r ddadl ail gartrefi wedi canolbwyntio ar nifer o'n cymunedau Cymraeg eu hiaith, yn bennaf mewn rhannau gwledig ac arfordirol o'r wlad. Gwyddom fod dimensiwn ieithyddol gwirioneddol a difrifol i'r her hon. Mae'n un sy'n torri ar draws ein hymrwymiad i 'Cymraeg 2050' a phwysigrwydd hanfodol sicrhau bywiogrwydd y Gymraeg fel iaith gymunedol. Yn ogystal ag ystyriaethau ieithyddol sylweddol, rhan greiddiol o'r mater sy'n cael ei wynebu yw tai fforddiadwy yn gyffredinol, ac nid yng Nghymru yn unig, ond mewn sawl rhan o'r DU ac yn wir y tu hwnt.

Gan adeiladu ar ein llwyddiant ysgubol yn y tymor diwethaf, pryd y gwnaethom ragori ar ein targed cartrefi fforddiadwy, mae ein rhaglen lywodraethu yn adlewyrchu'r ymrwymiad parhaus hwn i ddarparu 20,000 o gartrefi newydd ledled Cymru. Yn hollbwysig, eiddo carbon isel fydd y rhain i'w rhentu yn y sector cymdeithasol. I gefnogi'r ymrwymiad hwn, rydym bron wedi dyblu ein buddsoddiad ariannol eleni—buddsoddiad uchelgeisiol a sylweddol iawn ar unrhyw gyfrif, ac un a fydd yn cynnig manteision clir, gwirioneddol i bobl leol ac i'w cymunedau. 

Rydym hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu mesurau treth, cynllunio a thai effeithiol i sicrhau bod buddiannau pobl leol yn cael eu diogelu. Ac nid ydym yn troi oddi wrth ein safbwynt clir ar dreth trafodiadau tir ar gyfer prynu ail gartrefi. Yn hyn i gyd, byddwn yn diogelu buddiannau penodol ein cymunedau Cymraeg drwy gynllun tai cymunedau Cymraeg, gan gadw gafael ar fforddiadwyedd ar draws pob cymuned yng Nghymru.

Mae'r dull tair elfen yn cychwyn gweithredu gwirioneddol ar y cyd i reoli ail gartrefi yn deg dros dymor y Senedd hon, gan sicrhau hefyd bod tai fforddiadwy o ansawdd da ar gael i bawb. Yn gyntaf, cymorth: i ymdrin â materion fforddiadwyedd, byddwn yn targedu ac yn teilwra ein rhaglenni tai presennol ar draws deiliadaethau. Wrth wneud hyn, byddwn yn defnyddio profiadau o gyflwyno rhaglenni llwyddiannus fel cymorth i brynu, a hybu'r mathau o atebion creadigol yr ydym wedi eu gweld mewn sawl rhan o Gymru. Dros yr haf nesaf, bydd fy swyddogion yn llunio pecyn y gallwn ddechrau ei dreialu. Byddwn yn ei werthuso'n drylwyr fel y gallwn fod yn sicr ei fod yn gwneud gwahaniaeth clir a mesuradwy.

Yn ail, ein fframwaith rheoleiddio a'r system. Er mwyn ymdrin â mater ail gartrefi, byddwn yn darparu ar gyfer gwell rheolaeth dros ail gartrefi ychwanegol ac eiddo a gaiff ei osod ar gyfer gwyliau tymor byr, drwy newidiadau i'r fframwaith rheoleiddio a'r system. Mae angen i rannau o'r system newid, a byddwn yn eu newid. Byddwn yn sefydlu cynllun cofrestru statudol ar gyfer pob llety gwyliau, gan gynnwys eiddo a osodir am dymor byr. Byddwn yn ystyried cymhlethdodau cyfreithiol o ran sut y gallwn brofi newidiadau i'r system gynllunio, ac rwyf hefyd yn benderfynol y bydd yr holl systemau sydd naill ai ar waith neu sy'n cael eu harchwilio, yn hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol.

Ac yn drydydd, cyfraniad tecach, fel bod systemau trethu cenedlaethol a lleol yn sicrhau bod perchnogion ail gartrefi yn gwneud cyfraniad teg ac effeithiol i'r cymunedau y maen nhw'n prynu ynddyn nhw. Yn rhan o'r gwaith hwn, rydym yn edrych yn fanwl iawn ar amgylchiadau lle gellir trosglwyddo rhywfaint o eiddo i'r rhestr ardrethi annomestig ac, o ganlyniad, weithiau byddan nhw'n osgoi talu'r dreth gyngor a'r ardrethi annomestig. Ni all hynny fod yn iawn yn sicr a byddwn yn cyflwyno cynigion i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon. Gwyddom y gall perchnogion ail gartref gefnogi economïau lleol ac yn aml maen nhw'n gwneud hynny, ac rydym ni'n coleddu ein henw da fel cymdeithas groesawgar. Er hynny, mae'n bwysig bod pawb yng Nghymru yn gwneud cyfraniad teg. Dyna pam yr ydym ni'n adolygu trefniadau treth leol ac yn ystod yr haf, byddwn yn cyflwyno dewisiadau ar gyfer ymgynghori.

Nid oes dim o hyn yn syml wrth gwrs, sy'n rhywbeth y mae Dr Brooks yn ei gydnabod hefyd. Fodd bynnag, ni fydd hynny'n ein rhwystro. Byddwn yn treialu ein dulliau gweithredu, gan weithio gyda phartneriaid, yn ystod yr haf. Rydym eisoes wedi cael un cynnig i gymryd rhan mewn cynllun treialu ac rwyf wedi ysgrifennu i wahodd trafodaethau cwmpasu pellach. Mae ein gweithredoedd yn y maes hwn yn cynrychioli gweithio beiddgar, trawslywodraethol. Mae Gweinidogion ar draws Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan ac yn parhau i gymryd rhan. Rydym wedi sefydlu grŵp gorchwyl trawsbortffolio, a byddwn yn parhau â'n deialog ar draws y pleidiau. Fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, nid oes gan yr un blaid fonopoli ar syniadau da.

Dros yr haf byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gytuno ar y sail a'r lleoliad neu'r lleoliadau ar gyfer cynllun treialu wedi'i werthuso; datblygu pecyn cymorth cydlynol ac effeithiol i'w dreialu o fewn y cynllun treialu; dechrau datblygu cynllun cofrestru statudol ar gyfer pob llety gwyliau a pharhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid ynghylch ffurf y model y byddwn yn ei weithredu, gan gynnwys y trefniadau cofrestru ac arolygu. Byddwn yn ymgynghori ar newidiadau posibl i drethi lleol i helpu awdurdodau lleol i reoli effaith ail gartrefi a llety hunanarlwyo, a byddwn yn sefydlu cynllun tai cymunedau Cymraeg drafft ar gyfer ymgynghori yn yr hydref. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn ein cefnogi wrth i ni ddechrau gweithio ar y mater heriol ond pwysig iawn hwn. Diolch, Llywydd.