4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Fforddiadwyedd, Ail Gartrefi a'r Gymraeg

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 6 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:56, 6 Gorffennaf 2021

Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am y datganiad yma. Dwi innau eisiau rhoi ar y record hefyd pa mor siomedig oeddwn i i ffeindio fod y datganiad yma wedi cael ei wneud yn gyhoeddus i'r cyfryngau neithiwr, ac eich bod chi wedi bod yn Nhyddewi yn ffilmio ddoe, ac ein bod ni ddim wedi clywed dim byd amdano fo tan heddiw. Ond hyderaf na fydd hynny yn digwydd eto.

Os caf i yn gyntaf edrych, felly, ar y datganiad yn gyffredinol, fel rydych chi wedi sôn, mae'r Senedd yma eisoes wedi pasio cynnig yn datgan bod yna argyfwng tai. Fe gofiwch inni wneud hynny ryw dair wythnos yn ôl, a chwarae teg, gwnaethoch chi fel Llywodraeth ddim gwrthwynebu'r cynnig—a'i gefnogi e, mewn gwirionedd. Mae'r argyfwng ail dai yn un symptom yn unig o argyfwng llawer dyfnach a llawer iawn mwy sydd yn wynebu cymunedau ar hyd a lled Cymru. Mae'n golygu nad ydy pobl o Fôn i Fynwy yn medru fforddio prynu tai yn eu cymunedau. Fel y soniais i yn y ddadl honno rhai wythnosau yn ôl, mae hyn yn ganlyniad i farchnad sydd yn rhemp, a Llywodraeth ar ôl Llywodraeth sydd yn ofn ymyrryd yn y farchnad a sicrhau bod tai yn gartrefi, ac nid yn fuddsoddiad ariannol neu'n statws moethus i'w fwynhau yn achlysurol.

Ond rŵan at fanylion eich datganiad. Dwi'n falch gweld y datganiad yn cynnig ychydig yn fwy o fanylion mewn gwirionedd na'r hyn a gyflwynwyd yn y wasg. Dwi'n croesawu'r ffaith bod yna gydnabyddiaeth o'r diwedd fod yna broblem yn wynebu ein cymunedau—yn yr achos yma, cymunedau Cymraeg eu hiaith. Ond mae'r addewidion, yr ymrwymiad i ragor o ymgynghori, hanner addewidion ac oedi yn arwain rhywun i feddwl nad ydy'r Llywodraeth mewn gwirionedd yn gwerthfawrogi llawn difrifoldeb y sefyllfa. Nid problem ydy o, ond argyfwng.

Mae'r cynllun cofrestru statudol, er enghraifft, ar gyfer pob tŷ llety gwyliau i'w groesawu. O'r diwedd, bydd gennym ni well data a gwybodaeth fanwl ar bwy sy'n cadw busnesau dilys a chyfreithlon, a phwy sy'n ceisio chwarae'r system. Gall hyn gynorthwyo wrth geisio cau'r loophole sy'n galluogi pobl i drosi tai i dreth fusnes. A dwi'n croesawu eich bod chi wedi ymrwymo i edrych ar gau'r loophole. Ond er mwyn eich arbed chi rhag gwastraffu unrhyw ragor o'ch amser yn ymgynghori eto fyth, mi wnaf eich hysbysu chi rŵan fod yr Association of Accounting Technicians eisoes wedi edrych i mewn i hyn, ac wedi gwneud argymhellion i Lywodraeth San Steffan, ac mae Llywodraeth San Steffan, o dan y Ceidwadwyr yn Lloegr, yn edrych i gau'r loophole yma yn barod. Pam na wnewch chi weithredu ar hyn yn syth?

Rydych chi'n sôn am dreialu newid defnydd o fewn cynllunio i greu adran newydd ar gyfer lletyau tymor byr. Pam y treialu? Does dim angen cyfnod prawf fel hyn. Mae yna gynsail eisoes yn bodoli ar gyfer hyn efo tai amlfeddiannaeth. A does dim angen deddfwriaeth newydd, does dim rhaid gwastraffu amser rhagor yn edrych ar dreialu mwy o bethau. Rhaid ichi fod yn ddewr a gweithredu. A wnewch chi, felly, ymrwymo i weithredu ar hyn mor fuan â phosib?

Yn fwy pryderus fyth ydy'r amwysedd yn eich geiriau chi wrth sôn am dreialu adran newydd ar gyfer ail dai, gan eich bod chi'n sôn am edrych ar y potensial o dreialu adran newydd o'r fath yma o fewn y rheolau cynllunio. Peidiwch â gwastraffu rhagor o amser. Dwi'n gwybod bod yna bryderon ac amheuon am y polisi yma, ond dysgwch o wledydd eraill. Mae llywodraethau yn y Swistir yn gweithredu ar hyn yn barod, a hynny yn llwyddiannus. A wnewch chi estyn allan i wledydd fel y Swistir i ddysgu'r gwersi ganddyn nhw? Mae'r amser wedi dod i gymryd camau ystyrlon o blaid ein cymunedau ac o blaid pobl sydd wedi ein hethol ni. Fe gewch chi ein cefnogaeth ni i weithredu. Mae rhai o'n cymunedau ni bellach wedi mynd ar goll, ac eraill ar eu gliniau. Da chi, gweithredwch. Does dim angen ystyried potensial a threialu rhagor. Mae cyngor tref Nefyn eisoes wedi agor y drws ichi. Cymerwch y cyfle i gydweithio â nhw a chymunedau eraill sy'n galw allan am gymorth.

Yn olaf, dwi'n falch gweld eich bod chi yn sôn am edrych ar dreth trafodion tir, ond eto, does yna ddim ymrwymiad clir. Mae profiad gwledydd eraill yn dangos yn glir fod cynyddu treth gyffelyb ar bryniant ail dai, trydydd tai, ac yn y blaen, yn gymorth, ac yn sicrhau rheoli ar y farchnad. Gwnewch rywbeth yn ei gylch o. Gallwch chi wneud hyn heb hyd yn oed addasu ar unrhyw ddeddfwriaeth. Does dim angen oedi pellach. Mae prisiau tai yn saethu i fyny o flaen ein llygaid ni, a phobl ifanc yn gorfod gadael eu cymunedau neu fyw mewn tai israddol. Os nad ydych chi'n cymryd camau i weithredu rŵan hyn, yna byddwn ni'n gweld mwy o gymunedau yn mynd ar goll a mwy o bobl yn symud o'u cymunedau. Does dim amser gennym ni i'w golli. Gweithredwch rŵan hyn. Diolch.