Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
Wrth inni fynd ati i ddiwygio, mae'n amlwg ein bod ni mewn sefyllfa wahanol i'r un a ddychmygwyd wrth gyhoeddi canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru 18 mis yn ôl. Ar un llaw, rwy'n cydnabod bod yr amser paratoi ar gyfer y cwricwlwm wedi'i dreulio yn rheoli effaith y pandemig dros y flwyddyn ddiwethaf. Ar y llaw arall, gyda ffocws cryfach byth ar les, a buddsoddiad sylweddol mewn addysgu a dysgu, mae'r gwerthoedd sy'n sail i’r cwricwlwm wedi bod wrth galon y ffordd mae ysgolion wedi bod yn gweithio. Rwyf i wedi ymrwymo i gefnogi ysgolion a lleoliadau i gynnal eu momentwm. Ar yr un pryd, rwy'n cydnabod yr angen am ddisgwyliadau clir, a rhagor o le a chymorth i weithredu cwricwlwm o'r radd flaenaf i bob dysgwr.
Yng ngoleuni'r pandemig, rwyf i wedi penderfynu adnewyddu'r ddogfen 'Cwricwlwm i Gymru: Y daith i 2022', sy’n nodi'r disgwyliadau ar ysgolion i ddiwygio'r cwricwlwm. Rwyf am sicrhau ei fod yn glir, yn syml, ac yn canolbwyntio ar sut y diwygir y cwricwlwm, gan gynnwys pwysigrwydd addysgu o'r radd flaenaf. Rwyf hefyd wedi ymrwymo i sicrhau bod ein disgwyliadau yn ystyried y cyd-destun ar hyn o bryd, gan gydnabod y bydd llawer yn dechrau o wahanol fannau. Bydd yn ddogfen gynhwysfawr i ysgolion a lleoliadau. Rŷn ni'n cydweithio â phartneriaid i ddatblygu hyn a bydd y ddogfen yn cael ei chyhoeddi erbyn dechrau tymor yr hydref.
Fis diwethaf, cyhoeddais i gyfres o fesurau i ysgafnhau'r pwysau ar ymarferwyr, gan greu rhagor o le i gefnogi dysgwyr. Roedd hynny’n cynnwys gohirio mesurau perfformiad, prosesau categoreiddio ysgolion a rhaglen arolygu graidd Estyn i mewn i dymor yr hydref.
Heddiw, rwy'n cyhoeddi fy mod i'n bwriadu dileu'r gofyniad i ymarferwyr gynnal asesiadau ar ddiwedd y cyfnod sylfaen ac ar ddiwedd cyfnodau allweddol, ym mlwyddyn academaidd 2021-22, ar gyfer y grwpiau blwyddyn a fydd yn trosglwyddo i'r cwricwlwm newydd ym mis Medi flwyddyn nesaf. Dim ond mewn ysgolion cynradd bydd hyn yn berthnasol. Rwy'n credu, trwy ddileu’r gofynion hyn flwyddyn yn gynnar, gellir creu rhagor o le i ymarferwyr sy’n paratoi eu cwricwlwm i'w ddysgu y flwyddyn nesaf. Bydd hefyd yn rhoi gwell ffocws ar gynnydd dysgwyr unigol ac ar wella'r addysgu ar gyfer y cwricwlwm newydd. Bydd asesiadau sylfaenol ac asesiadau personol yn parhau, i roi hyder yng nghynnydd y dysgwyr i ymarferwyr, dysgwyr a rhieni.
Byddwn yn lansio rhwydwaith genedlaethol ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm yn yr hydref. Bydd hwn yn gorff a arweinir gan ymarferwyr. Bydd yn agored i bob ysgol, wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac yn gyfrwng allweddol i gefnogi'r gwaith o weithredu'r cwricwlwm newydd. Bydd ymarferwyr, arbenigwyr a rhanddeiliaid ehangach yn gweithio gyda'i gilydd i gynnal ac ehangu'r gwaith datblygu ar bob lefel, gan fynd i'r afael â rhwystrau rhag gweithredu. Bydd yn fforwm allweddol lle gall ymarferwyr ddysgu oddi wrth ei gilydd ar faterion pwysig sy'n ymwneud â datblygu'r cwricwlwm, gan ddatblygu dulliau o ddylunio'r cwricwlwm ar y cyd.
Rwyf hefyd yn cyhoeddi £7.24 miliwn o gyllid y flwyddyn ariannol hon yn uniongyrchol i ysgolion, i'w cefnogi wrth iddyn nhw ddiwygio'r cwricwlwm. Bydd hyn yn helpu i ymgysylltu â'r prif faterion o ran gweithredu'r cwricwlwm, gan gynnwys drwy'r rhwydwaith genedlaethol. I ategu hyn, bydd canllawiau clir ar sut y gall ysgolion wario'r cyllid.
Drwy fy nhrafodaethau â'r sector, mae'n amlwg bod dyhead cryf am ddiwygio o hyd. Rwy'n benderfynol o adeiladu ar y ffocws sydd wedi'i roi ar les a'r hyblygrwydd sydd wedi'i ddangos dros y flwyddyn ddiwethaf. Bydd hynny'n cyd-fynd yn agos â'r gwaith o gyflwyno'n cwricwlwm newydd. Felly, rwy'n cadarnhau heddiw y bydd y Cwricwlwm i Gymru yn parhau i gael ei weithredu mewn ysgolion cynradd, ysgolion meithrin a gynhelir, a lleoliadau meithrin nas cynhelir o fis Medi 2022 ymlaen. Hoffwn gadarnhau ein bod yn gweld taith ddysgu barhaus o 2022 ymlaen, a byddwn yn parhau i gefnogi ysgolion i ddatblygu a gwella eu cwricwla.
Rwy'n cydnabod bod ysgolion uwchradd wedi wynebu heriau penodol fel rheoli cymwysterau, sydd, mewn rhai achosion, wedi effeithio ar eu parodrwydd i gyflwyno'r cwricwlwm. Rwy'n deall y pryderon hyn, ac wedi penderfynu darparu rhagor o hyblygrwydd i ysgolion sy'n teimlo bod angen hynny arnynt. Yn 2022, bydd ysgolion sy'n barod i gyflwyno diwygiadau'r cwricwlwm i flwyddyn 7 yn gallu bwrw ymlaen. Fodd bynnag, ni fydd gweithredu'r cwricwlwm newydd yn ffurfiol yn orfodol tan 2023, gan ei gyflwyno yn y flwyddyn honno i flynyddoedd 7 ac 8 gyda'i gilydd. Mewn addysg heblaw yn yr ysgol, gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion, bydd y cwricwlwm newydd yn orfodol i ddysgwyr oedran ysgol gynradd ym mis medi 2022. Bydd yn orfodol i ddysgwyr blynyddoedd 7 ac 8 o fis Medi 2023 ymlaen. Bydd hyn yn wir hefyd mewn ysgolion arbennig ac ysgolion i blant tri i 16 oed.
Byddwn yn annog ysgolion uwchradd sydd yn gallu i ddilyn eu cynlluniau presennol yn 2022 i fwrw ymlaen gyda'r cynlluniau hynny, gyda chefnogaeth consortia rhanbarthol. Bydd fframwaith 'Beth rydym yn ei arolygu' Estyn yn cefnogi'r hyblygrwydd hwn. Bydd Estyn yn annog cynnydd ar hyd y daith o ddiwygio'r cwricwlwm ar gyfer ysgolion uwchradd.
Bydd rhai ysgolion uwchradd yn dewis parhau â'u llwybr tuag at ddiwygio'r cwricwlwm o 2022 ymlaen, er mai yn 2023 fydd yn dod yn orfodol i flynyddoedd 7 ac 8 gyda'i gilydd. Rwy'n falch o allu cynnig yr hyblygrwydd hwn ac yn rhagweld y bydd y gwaith o ddiwygio'r cwricwlwm yn mynd rhagddo yn fuan, yn enwedig gwaith ymgysylltu uniongyrchol rhwng ysgolion uwchradd a chynradd o hyn ymlaen ac i mewn i 2022 i helpu â throsglwyddo'r dysgwyr.
Ar ôl 2023, bydd y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei gyflwyno fesul blwyddyn, a bydd y cymwysterau cyntaf sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru yn cael eu dyfarnu gyntaf ym mlwyddyn academaidd 2026-27, yn unol â'r bwriad.
Bydd diwygio cymwysterau yn chwarae rhan sylfaenol yn llwyddiant ein cwricwlwm. Rhaid i'r uchelgais gyffrous sy'n sail i'n cwricwlwm gyd-fynd â'n system gymwysterau. Bydd yr hyblygrwydd i ysgolion uwchradd yn 2022 yn rhoi lle i'r sector weithio gyda Cymwysterau Cymru dros y flwyddyn nesaf i helpu llunio cyfres o gymwysterau o’r radd flaenaf i gyd-fynd ag athroniaethau'r cwricwlwm newydd, ac i fanteisio ar gyfleoedd newydd a ddaw yn sgil dulliau asesu.
Wrth wrando ar y proffesiwn, rwy'n dal yn ffyddiog ein bod ni'n gwneud y peth iawn drwy fwrw ymlaen â'n diwygiadau. Mae gennym ni gyfle prin i chwyldroi ansawdd cyfleoedd i'n plant a'n pobl ifanc. Mae'n hanfodol ein bod yn canolbwyntio ar ddiwygio’r cwricwlwm, a'n bod yn gwneud pethau'n iawn.