5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diwygio'r Cwricwlwm — Y Camau Nesaf

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 6 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:45, 6 Gorffennaf 2021

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am eich datganiad, Weinidog, yn trafod y cwricwlwm a chymwysterau. Dwi'n falch eich bod chi'n cydnabod yr angen am ddisgwyliadau clir a rhagor o le a chymorth i weithredu'r cwricwlwm newydd. Rydych chi hefyd yn sôn am lansio rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm yn yr hydref, ond beth yn union fydd pwrpas hwn a phwy fydd yn cynnull y rhwydwaith yma? Pwy fydd yn cael pobl at ei gilydd? Fydd o'n gweithredu ar lefel genedlaethol ynteu trefniadau lleol fydd ar waith? Oni fydd hyn yn ofyniad ychwanegol ar amser prin athrawon, ac yn eu tynnu nhw oddi ar eu gwaith dysgu, o gofio bod ysgolion eisoes yn gweithio mewn clystyrau ar gyfer rhannu arfer da o gwmpas y cwricwlwm newydd, a bod y consortia hefyd yn trefnu fforymau o gwmpas y cwricwlwm? Felly, fy nghwestiwn i ydy: oes gwir angen y rhwydwaith yma, ac oni fydd o'n dyblygu gwaith sydd yn digwydd mewn mannau eraill?

Rydych chi'n cyhoeddi arian i gefnogi diwygio'r cwricwlwm ac, mewn gwirionedd, sôn yn y fan yma ydyn ni, mae'n debyg, am gyflogi staff cyflenwi er mwyn rhyddhau amser staff sydd yn dysgu a rhoi'r gofod yna iddyn nhw ar gyfer trafod materion y cwricwlwm. Fedrwch chi jest gadarnhau hynny? Mae'n siŵr y bydd nifer o ysgolion yn falch o glywed eich bod chi am roi rhagor o hyblygrwydd i ysgolion sy'n teimlo bod angen mwy o amser arnyn nhw er mwyn gweithredu'r cwricwlwm. Ond, oni fydd hyn yn arwain at anghysondeb yn y sector uwchradd ar draws Cymru, efo plant blynyddoedd 7 ac 8 yn cael profiadau reit wahanol yn dibynnu ar le maen nhw'n byw? Ydych chi'n gweld bod hyn yn mynd i greu anawsterau, yn y tymor byr yn sicr? Ai, mewn gwirionedd, dyma'r peth gorau ar gyfer y plant penodol yma sydd dan sylw, sydd wrth gwrs yn wynebu newid mawr yn eu bywydau wrth iddyn nhw drosglwyddo o'r cynradd i'r uwchradd?

Dwi'n croesawu'r cymal yn eich datganiad sydd yn trafod cymwysterau. A dweud y gwir, roeddwn i wedi disgwyl clywed mwy am yr agwedd yma yn eich datganiad chi brynhawn yma, ond mi ydych chi'n dweud hyn, a dwi'n meddwl bod hyn yn bwysig:

'Bydd diwygio cymwysterau yn chwarae rhan sylfaenol yn llwyddiant ein cwricwlwm.'

Dwi'n cytuno'n llwyr efo'r datganiad yna, ond beth mae hynny'n ei olygu yn ymarferol? Dyna ydy'r cwestiwn sydd angen ei ofyn. Mae angen alinio cymwysterau i'r cwricwlwm ar fyrder os ydy'r cwricwlwm i fod yn llwyddiannus. Rydych chi'n gwybod ein bod ni ym Mhlaid Cymru o'r farn ei bod hi'n bryd i roi mwy o bwyslais ar asesu parhaus yn hytrach nag arholiadau. Rydyn ni o'r farn bod angen dod â chymwysterau TGAU, Safon Uwch a BTEC i ben, yn raddol—dwi'n pwysleisio hynny; yn raddol—a'r nod gennym ni fyddai symud oddi wrth y strategaeth o wthio nifer cynyddol o ddisgyblion drwy lwybr academaidd cul a rhoi statws cyfwerth i addysg alwedigaethol a thechnegol. Felly, hoffwn i wybod beth ydy eich gweledigaeth chi o gwmpas yr holl faes pwysig yma sydd angen mynd i'r afael â hi. Ydych chi'n barod i wneud y newidiadau radical sydd eu hangen er mwyn i'r cwricwlwm fod yn llwyddiannus? Diolch yn fawr.