Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
Wrth gwrs, diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a'r copi o'i ddatganiad ymlaen llaw. Mae rhywfaint o newyddion da yn y diwydiant dur ar hyn o bryd. Rwy'n clywed bod y farchnad ar ei lefel uchaf ers 15 mlynedd, felly nawr yw'r amser perffaith i edrych ar ddatblygu'r sector ar gyfer y dyfodol, a dyna pam rwy'n credu bod y datganiad hwn i'w groesawu'n fawr.
Ychydig o gwestiynau a phwyntiau. Yn gyntaf, a fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi strategaeth hirdymor ar gyfer datblygu gwaith ymchwil a datblygu ar gyfer y sector dur yng Nghymru? Rwy'n siŵr bod y Gweinidog yn ymwybodol bod Tata Steel yn ystyried gwahanu ochrau'r DU a'r Iseldiroedd y busnes ar hyn o bryd. Yn wir, rwy'n credu bod hynny'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, felly, hyd y gwn i, yn rhan o unrhyw strategaeth bosibl, byddai'n bwysig gweld sut y byddai hyn yn effeithio ar ddiwydiant y DU pe bai'n mynd rhagddo. O gofio ein bod ni wedi datgan argyfwng hinsawdd, bydd ymchwil a datblygu yn arbennig yn hanfodol i'r sector, yn enwedig o ystyried, fel y mae pethau ar hyn o bryd, nad yw'r llwybr at ddatgarboneiddio ar gyfer y maes dur mor eglur â sectorau eraill, er bod ynni adnewyddadwy, wrth gwrs, yn dibynnu'n fawr ar ddur yn y lle cyntaf. I'r perwyl hwnnw, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch pa gyllid fyddai ar gael, boed hynny drwy gyd-fuddsoddi neu drwy Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU yn unig?
Mae ystyriaeth bwysig arall, wrth gwrs, yn ymwneud ag ynni a phrisio, fel y nododd y Gweinidog. Byddai gen i ddiddordeb mewn gwybod pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wneud prisiau yn fwy cystadleuol i'r diwydiant dur, yn debyg i'r hyn a wnaed eisoes yn yr Almaen. Mae i'w groesawu, wrth gwrs, clywed bod y Gweinidog wedi codi ynni adnewyddadwy morol, ac rwy'n edrych ymlaen at weld uchelgais y Llywodraeth yma a'r gobaith yw y bydd hynny yn arwain at forlyn llanw bae Abertawe yn y tymor hir. Byddai gen i ddiddordeb hefyd mewn gwybod pa ran y mae'r Gweinidog yn meddwl fydd gan brosiectau ynni a arweinir gan y gymuned, nid yn unig o ran creu prisiau mwy cystadleuol, ond hefyd o ran cynyddu capasiti ar y grid lleol ar gyfer y sector yng Nghymru.
Yn ychwanegol at hyn, pa gymorth fydd Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei roi o ran dur wedi'i ailgylchu? Cyfeiriodd y Gweinidog ato yn ei ddatganiad, ond mae'n ymddangos bod problem ar hyn o bryd o ran ansawdd y sgrap sy'n cael ei dderbyn, yn benodol materion yn ymwneud â halogi o fudreddi, plastigau a metelau eraill. Rwy'n siŵr bod y Gweinidog yn ymwybodol hefyd, wrth gwrs—ac rwy'n eithaf sicr ei fod wedi cyfeirio ato, eto, yn ei ddatganiad—o brosiect SUSTAIN, trwy Brifysgol Abertawe, sydd wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol iawn yn ymwneud â gwahanu metelau mewn sgrap. Mae gan y prosiect, wrth gwrs, ran bwysig i'w chwarae o ran dur wedi'i ailgylchu, felly byddai gen i ddiddordeb mewn clywed a yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw sgyrsiau eraill gyda'r sector a'r tîm y tu ôl i SUSTAIN i weld sut y gellir bwrw ymlaen â'u gwaith.
Ac yn olaf, rwyf i wedi sôn amdano sawl gwaith yn y Siambr o'r blaen, ond pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd ar drywydd sefydlu trefn debyg i Lywodraeth yr Alban trwy sefydlu comisiwn pontio cyfiawn? Fel y soniais ar ddechrau fy nghyfraniad, nid oes gan ddiwydiannau fel dur lwybr eglur at ddatgarboneiddio, ac felly mae gweithwyr yn y diwydiannau hynny mewn mwy o berygl o ansicrwydd swyddi, yn y dyfodol, wrth i ni geisio datgarboneiddio. Rwy'n siŵr y byddai strategaeth i ddiogelu gweithwyr yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr. Diolch yn fawr.