Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
Diolch, Dirprwy Weinidog, am y datganiad heddiw yma. Dwi ddim yn gwbl argyhoeddedig a oedd angen y datganiad yma heddiw yma. Dydy o ddim yn arwydd da iawn bod Gweinidog yn gorfod egluro, ar ôl delifro’r datganiad, beth oedd pwrpas y datganiad hwnnw. Ydy, mae o’n fath o ddiweddariad, ond beth rydym ni eisiau ei wybod, wrth gwrs, ydy beth ydy’r cig sydd yn mynd i dyfu ar esgyrn y Papur Gwyn a gafodd ei gyhoeddi yn gynharach eleni, a dydw i ddim yn argyhoeddedig ein bod ni wedi cael rhagor o wybodaeth heddiw, mewn difri, ynglŷn â lle rydyn ni’n mynd. Mae’r geiriau yn cael eu hatseinio eto heddiw, fel clywsom ni yn y Papur Gwyn: yr heriau, yr achos dros newid, partneriaeth, gweithio efo’n gilydd. Rydym ni’n gwybod hynny. Rydym ni’n gwybod beth ydy’r heriau. Rydym ninnau ym Mhlaid Cymru wedi gallu adnabod llawer o’r heriau drwy'r gwaith a wnaethom ni yn y Senedd ddiwethaf, drwy ein comisiwn gofal ni.
Y cwestiwn ydy: beth ydy’r camau sydd yn mynd i fod yn digwydd rŵan er mwyn gallu canfod atebion go iawn i’r heriau yna? Mae’r Papur Gwyn yn rhoi rhyw fath o syniad inni o’r cyfeiriad mae’r Llywodraeth eisiau mynd iddo fo, ond hyd yma, rydym ni’n dal, dwi’n meddwl, yn aros i weld sut y bydd y siwrnai honno yn mynd arni hi. A dwi innau’n cytuno efo’r llefarydd o’m blaen i: wrth gwrs y gallwn ni i gyd uno tu ôl i’r egwyddorion creiddiol—maen nhw’n egwyddorion digon syml, onid ydyn nhw, i godi safon y gofal rydym ni’n ei roi i bobl—ond gadewch inni wybod beth yn union rydym ni yn ei farnu yn fan hyn.
Cwestiwn syml sydd gen i, mewn difri. Rydym ni’n dal, wrth gwrs, yn aros am waith i ddigwydd yn San Steffan, yn Whitehall. Mae'r gwaith rhyng-weinidogol wedi bod yn mynd ymlaen, yn edrych ar sut i dalu am ofal cymdeithasol yn y dyfodol. Dwi’n gobeithio na fydd yn rhaid inni aros yn rhy hir am gasgliadau'r gwaith hwnnw, achos mae o’n faes mor, mor allweddol i fynd i’r afael ag o. Ydych chi yn gallu rhoi math o syniad inni o sut y byddai’r argymhellion sydd gennych chi, sydd braidd yn amwys ar hyn o bryd, yn cael eu heffeithio arnyn nhw o ganlyniad i ba bynnag ddatganiadau neu benderfyniadau fyddai’n cael eu gwneud yn Whitehall ynglŷn â’r darlun ehangach yna o dalu am ofal cymdeithasol yn y dyfodol?