7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Papur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth — Y camau nesaf

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:07 pm ar 6 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 6:07, 6 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Sam, yn fawr iawn, am y cwestiwn yna—cwestiwn pwysig iawn. Rydym ni yn bwriadu bod awdurdodau lleol yn parhau i ddarparu a chomisiynu gwasanaethau gofal cymdeithasol, oherwydd ei bod yn gwbl hanfodol bod y gwasanaethau hyn mor agos at y cyhoedd ac mor agos at yr ardal leol â phosibl. Felly, yn sicr nid ydym ni'n disgwyl unrhyw leihad yn swyddogaeth awdurdodau lleol yn y maes hwn.

Rydym ni o'r farn bod angen gwasanaeth lleol, rhanbarthol a chenedlaethol arnom, a bod angen darpariaeth ranbarthol fwy effeithiol arnom a bod angen fframwaith cenedlaethol nad yw'n lleihau'r ddarpariaeth ar lefel leol arnom. Rwyf i'n teimlo'n gryf iawn y dylai darpariaeth gofal cymdeithasol fod wedi ei chysylltu'n gryf iawn â gwasanaethau lleol, gan mai nhw yw'r bobl sy'n gwybod orau, ac rwyf i o'r farn ei bod yn bosibl datblygu'r gymuned trwy'r gwasanaethau sydd gennych yn lleol, ac mae gwybodaeth y gymuned leol yn gwbl hanfodol. Felly, rydym ni yn benderfynol na fydd y cynigion hyn yn lleihau'r ddarpariaeth gwasanaethau lleol a'r wybodaeth leol, ond rydym ni yn cynllunio ar gyfer dull cenedlaethol a fydd yn ei gwneud yn symlach ac a fydd yn gallu darparu paramedrau a fydd yn atal rhywfaint o'r dryswch sy'n bodoli ar hyn o bryd. Mae'n sector bregus iawn ac rydym ni'n awyddus i'w gryfhau, ond rydym ni'n awyddus i gryfhau atebolrwydd lleol hefyd.