Part of QNR – Senedd Cymru ar 6 Gorffennaf 2021.
Yn gynharach eleni, gwnaethom ni gyhoeddi £25 miliwn o gyllid rheolaidd cenedlaethol ar gyfer gofal brys. Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael rhan o’r cyllid hwn i wella ei ganlyniadau. Bydd y Bwrdd Iechyd hefyd yn cael hyd at £90 miliwn dros y tair blynedd nesaf i fwrw ymlaen â’r agweddau mwyaf hanfodol ar drawsnewid gwasanaethau.