Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 7 Gorffennaf 2021.
Diolch yn fawr, Weinidog. Byddwch chi'n cofio imi ysgrifennu atoch chi ar fater y diffyg cyllid oedd ar gael i'r sector lletygarwch ar gyfer mis Ebrill yn benodol. Yn eich llythyr ataf i ar 25 Mehefin, rŷch chi'n nodi, a dwi'n dyfynnu, fod 'y pecyn cymorth ariannol i fusnesau Cymru wedi parhau trwy gydol mis Ebrill ac i mewn i fis Mai.' Fodd bynnag, mae busnesau yn y rhanbarth yn dweud wrthyf i nad yw hyn yn gywir. Yn wir, mae dogfen ar wefan Busnes Cymru yn nodi'n glir fod cyllid ar gyfer cymorth penodol i'r sector, y gronfa ERF cam 2, yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 25 Ionawr 2021 a 31 Mawrth 2021. Nid oedd y gronfa nesaf ar gael tan fis Mai, felly sut ŷch chi'n esbonio'r anghysondeb rhwng y wybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd ar wefan Busnes Cymru a'r wybodaeth a roesoch chi imi yn eich llythyr ar 25 Mehefin?