Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 7 Gorffennaf 2021.
A gaf fi ddiolch i Vikki Howells am ofyn y cwestiwn hwn heddiw? Ac er bod pob un ohonom yn croesawu'r cymorth a gynigiwyd hyd yma i fusnesau, wrth inni ddechrau dod allan o'r pandemig, credaf ei bod hi'n hanfodol fod rhai pecynnau cymorth presennol yn cael eu diwygio i ennyn hyder ac annog gwario gan ddefnyddwyr yn y sector manwerthu ar y stryd fawr a chanol ein trefi. Ac mae'r gronfa trawsnewid trefi yn hanfodol ar gyfer manwerthu ledled Cymru, ac yn wir, yn fy etholaeth i, ond byrdymor yn unig yw ei ffrydiau cyllido. Felly, Weinidog, a wnewch chi fynd i’r afael â hyn drwy sicrhau y gall pobl gymwys gael mynediad at y gronfa yn fwy hirdymor? Diolch.