Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 7 Gorffennaf 2021.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol fod yr Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol, undeb rwy'n aelod ohono, wedi cynhyrchu cynllun adfer manwerthu, sy'n nodi ymyriadau allweddol i gefnogi'r sector. Gan gydnabod, wrth gwrs, fod rhai o'r dulliau wedi'u cadw'n ôl a bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyflawni ar rai gofynion allweddol, megis rhyddhad ardrethi llawn i fusnesau manwerthu yng Nghymru, byddwn yn croesawu eich barn ar yr adroddiad hwnnw a pha fesurau pellach y gallech eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau bod anghenion y sector manwerthu yn ganolog ym mholisi economaidd Llywodraeth Cymru dros y 12 mis nesaf.