Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 7 Gorffennaf 2021.
Diolch yn fawr. Mae dwy ran i fy nghwestiwn. A all Llywodraeth Cymru amlinellu faint o'r £8.4 miliwn a fuddsoddir yn y sector gofal diwedd oes bob blwyddyn yng Nghymru sy'n mynd tuag at wasanaethau gofal lliniarol pediatrig? Yn ail, mae Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith yn cael llai na 10 y cant o'u cyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae hon yn gyfran sylweddol is nag y mae hosbisau plant yn Lloegr a'r Alban yn ei chael gan eu Llywodraethau hwy. A all y Llywodraeth hon felly ymrwymo i gynyddu cyllid y wladwriaeth i ddwy hosbis plant Cymru yn hirdymor, ac i gyfarfod â Thŷ Hafan a Thŷ Gobaith i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu hystyried yn yr adolygiad cyllido sydd ar y gweill ar gyfer hosbisau? Diolch yn fawr.