Gofal Lliniarol i Blant

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 7 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative 2:37, 7 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae gofal hosbis, yn enwedig i blant, yn bwnc sensitif ac emosiynol, ond mae'r pandemig a'r cyfyngiadau symud wedi gwneud pwnc anodd yn waeth. Y llynedd, cyhoeddodd Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith adroddiad ar y cyd, 'Lleisiau Teuluoedd', i roi llais i bryderon pwysicaf teuluoedd plant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd. Roeddent yn pwysleisio eu bod angen mwy o'r gofal na all neb ond yr hosbisau ei ddarparu, a hynny ar frys, yn enwedig mewn perthynas â gofal seibiant. A ydych yn cytuno, Weinidog, y byddai model ariannu cynaliadwy yn rhoi hyder i hosbisau plant yng Nghymru gynllunio ac ehangu eu gwasanaethau i ddiwallu'n well anghenion pob plentyn sydd â chyflwr sy'n cyfyngu ar eu bywyd a'u teuluoedd ledled Cymru?