Gofal Cartref

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 7 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 3:02, 7 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw. Yn amlwg, mae fferylliaeth gymunedol yn gwbl hanfodol ar gyfer darparu gwasanaethau, a darparu gwasanaethau i'r rheini sy'n derbyn gofal cartref hefyd.

Rwy'n credu bod gan fferyllfeydd cymunedol record dda iawn o ddarparu gwasanaethau, ac rwy'n ymwybodol yn bersonol o lawer o unigolion a theuluoedd sydd wedi dibynnu ar fferyllfeydd cymunedol i ddarparu'r feddyginiaeth ac i fod yn gyswllt â gwasanaethau eraill. Felly, rydym yn sicr yn ymwybodol iawn ac yn gefnogol iawn i rôl fferyllfeydd cymunedol, a byddwn yn ceisio gwneud popeth yn ein gallu i gynyddu eu rôl, oherwydd rwy'n credu ei bod yn gwbl allweddol ein bod yn cyrraedd yr holl bobl sydd angen y cymorth ychwanegol a geir drwy'r gwasanaethau. Credwn fod fferyllfeydd cymunedol yn gwbl hanfodol.