Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 7 Gorffennaf 2021.
Rydym eisoes wedi clywed y prynhawn yma am boen a dioddefaint aruthrol pobl sy'n aros am wasanaethau ar hyd a lled y wlad, yn dilyn y pandemig neu wrth i'r pandemig ddominyddu'r gwasanaeth iechyd gwladol. Weinidog, a yw'n bryd inni ystyried atal y defnydd o adnoddau'r GIG ar gyfer gwaith preifat er mwyn sicrhau bod holl adnoddau'r gwasanaeth iechyd gwladol yn cael eu darparu ar gyfer y rhai mwyaf anghenus a'r rhai sy'n dioddef fwyaf o boen ac sydd angen gwasanaethau, ac nid i'r rheini sy'n gallu talu?
Mae'n ben-blwydd y gwasanaeth iechyd gwladol yr wythnos hon wrth gwrs, a phan oedd Nye Bevan yn creu'r gwasanaeth iechyd gwladol, roedd am greu gwasanaeth a oedd yn diwallu anghenion pobl mewn angen, ac nid y rhai sy'n gallu fforddio talu. Felly, yn yr argyfwng y mae'r gwasanaeth iechyd gwladol yn ei wynebu heddiw, onid yw'n bryd ein bod yn atal yr holl ddefnydd o'r sector preifat a gwaith preifat o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol i sicrhau bod anghenion pobl mewn angen yn cael eu diwallu?